Cytundeb Masnach Rydd UE-India

Dr Sangeeta Khorana

Dr Sangeeta Khorana

15 Ionawr 2008

Dydd Mawrth 15 Ionawr 2008
Academydd o Aberystwyth i astudio Cytundeb Masnach Rydd Yr Undeb Ewropeaidd ac India
            
Comisiynwyd y Dr Sangeeta Khorana o Ysgol Reolaeth a Busnes Prifysgol Aberystwyth gan Uwch Gomisiwn Prydain yn India, fel rhan o gynllun Rhaglen Lywodraethol Economaidd y Swyddfa Dramor a'r Gymanwlad, i adnabod y rhwystrau di-doll sydd mewn bodolaeth i fasnach yn y Deyrnas Gyfunol a gwerthuso effeithiau'r Cytundeb Masnach Rydd arfaethedig rhwng yr Undeb Ewropeaidd a India ar fasnach ddwyffordd gan ganolbwyntio’n benodol ar y sector nwyddau (lledr ac esgidiau, defnyddiau gweol a dillad).

Yn ystod y blynyddoedd diweddar mae’r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn ceisio cytundebau masnach rydd gydag amryw o wledydd. Yn ddiweddar arwyddodd India hefyd gytundebau masnach rydd gyda Sri Lanka, Singapore, Nepal a Bhutan.  Mae disgwyl i’r cytundeb masnach rhwng yr Undeb Ewropeaidd ac India, a fydd yn golygu dileu 90% o’r tollau mewnforio, gael ei gwblhau mewn dwy flynedd a gosodwyd dyddiad gweithredu ar gyfer 2010-2011.

Bydd Dr Khorana yn gweithio’n agos gyda Cyngor Ymchwil ar Gysylltiadau Economaidd Rhyngwladol India (Indian Council for Research on International Economic Relations (ICRIER) ar yr astudiaeth a fydd yn ceisio adnabod rhwystrau di-doll i fasnach sydd yn wynebu allforwyr nwyddau lledr, esgidiau, defnyddiau gweol a dillad o India i’r Deyrnas Gyfunol.
 
Dywedodd Dr Khorana: “Nid dileu tollau mewnforio yw’r prif rhwystr o safbwynt llwyddiant trafodaethau masnach, ond yn hytrach, adnabod a mesur effaith rhwystrau di-doll fel y maent yn cael eu hadnabod. 
“Oherwydd y gwahaniaethau sydd mewn bodolaeth o safbwynt mecanwaith reolaethol a gweinyddol, mae’n bwysig adnabod y rhwystrau di-doll os yw’r gwledydd i elwa o’r cytundeb masnach rydd.”

“Mae i’r ymchwil ddwy agwedd: yn gyntaf bydd yn adnabod y rhwystrau di-doll drwy ymgynghori gyda mewnforwyr/allforwyr, llunwyr polisi, darpar fuddsoddwyr a grwpiau ddiddordeb allweddol yn India a’r DG er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o’r rhwystrau di-doll sydd yn wynebu gweithgynhyrchwyr o India sydd yn allforio i’r Deyrnas Gyfunol.

“Yn ail, bydd yr astudiaeth yn cynnig ffyrdd o sefydlu mecanwaith canoli hyblyg er mwyn lleihau dylanwad rhwystrau di-doll ar fasnach dwyffordd er mwyn galluogi busnesau yn y DG ac India i elwa o’r cytundeb masnach a mwynhau’r manteision o well mynediad i’r farchnad sydd yn cael ei gynnig gan y cytundeb arfaethedig,” ychwanegodd.

Mae Dr Khorana yn ddarlithydd Economeg ac ymunodd â Ysgol Rheolaeth a Bunsnes Prifysgol Aberystwyth yn Ionawr 2007. Yn wreiddiol o Delhi Newydd, cwblhaodd radd Meistr yn y Sefydliad Masnach Byd (World Trade Institute) yn y Swisdir a’i doethuriaeth yn Mhrifysgol St Gallen, y Swisdir.  Mae’n awdurdod ar fynediad i farchnadoedd a rhwystrau masnach ac wedi gweithio ar ymchwil yn ymwneud â masnach i Lywodraeth y Swisdir.

Cyllidwyd y prosiect “Convergence towards Regional Integration between the EU and India: Trade implications for India and the UK” gan rodd ariannol gwerth £34,600 oddi wrth Uwch Gomisiwn Prydain yn India.