Ysgoloriaethau ôl-raddedig Cyfrwng Cymraeg

Campws Penglais

Campws Penglais

01 Ionawr 2008

Ysgoloriaethau ôl-raddedig Cyfrwng Cymraeg
Gwahoddir ceisiadau am ysgoloriaeth PhD yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth i ddechrau ar 1 Hydref 2008. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn astudio ar gyfer gradd ddoethuriaeth mewn maes cyfreithiol neu sosio-gyfreithiol dan oruchwyliaeth dau aelod o staff Adran y Gyfraith a Throseddeg.

Cynigir yr ysgoloriaeth am gyfnod o ddim mwy na phum mlynedd, ac mae yn cynnwys ffioedd a chynhaliaeth dros gyfnod yr astudiaeth. Bydd yr ysgoloriaethau yn gyfwerth ag ysgoloriaethau ôl-raddedig a ddyfernir gan y Cynghorau Ymchwil (y ffigwr ar gyfer 2007/08 oedd £12,600 gyda chynnydd yn debygol ar gyfer 2008/09).


Disgwylir i ddeiliad yr ysgoloriaeth gyfrannu at ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod hwn. Bydd graddedigion sydd eisoes wedi astudio ar gyfer gradd meistr yn astudio am 4 blynedd, a bydd graddedigion sydd heb radd meistr yn astudio am 5 mlynedd, ac yn derbyn hyfforddiant ymchwil yn ystod y flwyddyn gyntaf. Yn y ddau achos, ystyrir blwyddyn olaf yr ysgoloriaeth fel blwyddyn gymrodoriaeth pan fydd y dyletswyddau dysgu yn cynyddu.

Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau ymchwil mewn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth ymchwil yn ogystal ag addysg trwy gyfrwng y Gymraeg. Gan hynny, disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus allu cyfathrebu'n effeithiol yn ysgrifenedig ac ar lafar drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.


Gwahoddir ceisiadau gan unigolion brwdfrydig sydd yn meddu ar broffil academaidd o safon. Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar radd 2.1 (neu ddisgwyliad o radd 2.1) neu uwch yn y gyfraith, neu radd meistr yn y gyfraith. Gwahoddwn geisiadau hefyd gan unigolion sydd wedi graddio mewn disgyblaeth arall, ond sydd yn meddu un ai ar radd meistr yn y gyfraith, neu brofiad o weithio ym maes y gyfraith.

Cyllidir yr ysgoloriaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru trwy’r Ganolfan Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg fel rhan o Strategaeth cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r brifysgol hefyd yn cyfrannu’n ariannol at y cynllun drwy gyfrannu at gyflog y deiliaid yn ystod y flwyddyn olaf.

Ymholiadau anffurfiol a ffurflen gais ar gael gan Ms Pamela Davies, Adran y Gyfraith a Throseddeg, Prifysgol Aberystwyth, Penglais, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DY. Ffôn 01970 622712. Ffacs 01970 622729. Ebost: law-enquiries@aber.ac.uk.

Dyddiad cau Ebrill 7fed, 2008.

Hybu Rhagoriaeth Mewn Addysgu ac Ymchwil/Promoting Excellence in Teaching and Research.