Gornesta Geiriadurol?

Yr Athro David Trotter

Yr Athro David Trotter

28 Ebrill 2009

Mae dau o brif eiriaduron Ffrangeg ganoloesol, sef y Geiriadur Eingl Normaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth a'r Dictionnaire de l'ancien français ym Mhrifysgol Heidelberg, yn mynd i gydweithio ar astudiaeth o destun Eingl Normaneg ynglŷn â’r Groesgad Gyntaf, testun nad yw, hyd yn hyn wedi ei gyhoeddi.

Yn enwog am fod yn gartref rhamantaidd opereta’r ‘tywysog fyfyriwr’, am fyfyrwyr yn gornesta â chleddyfau, ac am ei charchar myfyrwyr, mae Heidelberg hefyd yn gartref i un o brifysgolion hynaf a mwyaf nodedig yr Almaen.

Y mae hi’n dref eithriadol ddeniadol sy’n boblogaidd tu hwnt gan ymwelwyr o dramor ac yno y lleolir un o‘r prosiectau mwyaf blaenllaw ym maes ieithyddiaeth Ffrangeg ganoloesol, y Dictionnaire de l’ancien français (DEAF), sef geiriadur etymolegol Hen Ffrangeg y dechreuwyd gweithio arno yn y 1960au.

Gwobrwywyd y cydweithio a fu rhwng y GeiriadurEingl-Normaneg (GEN), a leolir bellach yn yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a’r DEAF gan lwyddiant mewn cynllun newydd i gyllido ymchwil sy’n dwyn ynghyd ysgolheigion o Brydain a’r Almaen, ac a gefnogir gan Gyngor Ymchwil yr Almaen a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau yn y DU. Menter newydd yw hon sy’n adlewyrchu natur mwyfwy ryngwladol gwaith academaidd.

Meddai’r Athro David Trotter, Pennaeth yr Adran Ieithoedd Ewropeaidd a Chyfarwyddwr y Geiriadur Eingl Normaneg ym Mhrifysgol Aberystwyth;
“Mae’r cydweithio, anffurfiol ar y cyfan, rhwng yr AND a’r DEAF yn dyddio’n ôl i’r 1960au ac ers rhai blynyddoedd cafodd ei ddatblygu trwy i staff y naill brifysgol â’r llall ymweld â’i gilydd. Bydd hyn nawr yn fwy ffurfiol: bydd y grant yn talu am swydd ymchwil 50%, ymchwilydd i dreulio dwy flynedd yn Heidelberg ac un yn Aberystwyth, ac i gynhyrchu Ph.D. wedi ei seilio ar destun, nad yw wedi ei gyhoeddi, am y Groesgad Gyntaf.”

“Bydd yr ymchwilydd yn cael gweld hanfodion gweithredol y ddau eiriadur a bydd rhagor o gydweithio’n sicr o ddeillio o hyn. Mae’r GEN eisoes yn llwyr ddigidol, fel y bydd DEAF yn fuan ac mae cysylltiadau electronig, yn ogystal â dynol, eisoes yn weithredol.”

“Amrywiad ar Ffrangeg ganoloesol oedd Eingl-Normaneg, sef y ffurf ar Ffrangeg a ddefnyddid ym Mhrydain yn yr Oesoedd Canol: mae llai o bellter rhyngddynt nag a feddylir yn aml, ac nid yw’n annhebyg i’r gwahaniaeth rhwng Saesneg UDA a Saesneg Prydeinig.”

“Parhaodd cysylltiadau nôl a blaen dros y Sianel trwy gydol yr Oesoedd Canol; fe allforiwyd gwlan a brethyn o Loegr i Ffrainc a’r Eidal, a defnyddid plwm o Loegr mewn eglwysi cadeiriol yn Ffrainc. Âi ysgolheigion, Gerallt Gymro er enghraifft, i Baris i astudio, daeth llyfrau Ffrangeg i Loegr a’u cyfieithu a’u haddasu i Gymraeg a Saesneg. Gellid ystyried bod y cydweithio o fewn i Ewrop fodern yn barhad mewn ffordd, o’r traddodiad hwnnw. Ymddengys fod dyddiau’r gornesta bellach ar ben. Rydyn ni’n rhan o Ewrop unwaith eto,” ychwanegodd.