Y darganfyddiad gwyddonol cyntaf gan robot

Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir

Yr Athro Ross King ag Adam yn y cefndir

02 Ebrill 2009

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi creu Gwyddonydd Robotaidd. Ym marn yr ymchwilwyr, dyma'r peiriant cyntaf o’i fath i ddarganfod gwybodaeth wyddonol newydd, a hynny’n annibynnol. Mae’r robot, a elwir yn Adam, yn system gyfrifiadurol sy’n awtomeiddio’r broses wyddonol yn llawn.

Mae’r gwaith, a ariannwyd yn rhannol gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biotechnoleg a Biolegol (BBSRC) a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, yn cael ei gyhoeddi heddiw (2 Ebrill 2009) yn y cylchgrawn Science.

Dywedodd yr Athro Ross King, a arweiniodd yr ymchwil yn Adran Gyfrifiadureg Aberystwyth: “Y gobaith yn y pen draw yw cael timau o wyddonwyr dynol a robotaidd i weithio gyda’i gilydd mewn labordai”.

Cynlluniodd y gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caergrawnt Adam er mwyn cyflawni pob cam o’r broses wyddonol yn awtomatig, fel nad oedd angen rhagor o ymyrraeth gan bobl.

Mae’r robot wedi darganfod gwybodaeth syml ond newydd am genomeg burum pobyddion, Saccharomyces cerevisiae, organeb y mae gwyddonwyr yn ei ddefnyddio i fodelu systemau bywyd mwy cymhleth. Mae’r ymchwilwyr wedi defnyddio arbrofion â llaw ar wahân i gadarnhau bod damcaniaethau Adam yn newydd ac yn gywir.

“Oherwydd bod organebau biolegol mor gymhleth, mae’n bwysig sicrhau bod manylion arbrofion biolegol yn cael eu cofnodi’n fanwl iawn. Mae hyn yn waith anodd a llafurus i wyddonwyr o gig a gwaed ond mae’n hawdd i Wyddonwyr Robotaidd.”

Gan ddefnyddio gwybodaeth artiffisial, damcaniaeth Adam oedd bod gan rai genynnau mewn burum pobyddion ensymau penodol sy’n cataleiddio adweithiau biocemegol mewn burum. Yna, lluniodd y robot arbrofion i brofi’r rhagfynegiadau hyn, cynhaliodd yr arbrofion gan ddefnyddio roboteg mewn labordy, dehonglodd y canlyniadau ac ailadroddodd y cylch.

Mae Adam yn dal i fod yn brototeip, ond cred tîm yr Athro King bod eu robot nesaf, Eve, yn rhoi gobaith aruthrol i wyddonwyr sy’n chwilio am gyffuriau newydd yn erbyn afiechydon megis malaria a sgistosomiasis, haint sy’n cael ei achosi gan fath o fwydyn parasitig yn y trofannau.

Aeth yr Athro King yn ei flaen: “Petai gwyddoniaeth yn fwy effeithlon, byddai’n fwy tebygol o allu helpu i ddatrys problemau cymdeithas. Un ffordd o wneud gwyddoniaeth yn fwy effeithlon yw drwy awtomatiaeth. Awtomatiaeth oedd yr hyn a yrrodd lawer iawn o’r datblygiadau yn y 19eg a’r 20fed ganrif, ac mae hyn yn debygol o barhau.”