'Rescripting Security: Gender and Peacebuilding in South Asia'

Dr Meenakshi Gopinath

Dr Meenakshi Gopinath

23 Ebrill 2009

Mae'n bleser gan Sefydliad Astudiaethau Rhyngwladol Coffa David Davies gyhoeddi taw Dr Meenakshi Gopinath fydd yn traddodi y ddarlith flynyddol eleni.

Mae Dr Gopinath yn Bennaeth Coleg Lady Shri Ram, Delhi Newydd a sefydlydd a chyfarwyddwraig bresennol Gwragedd mewn Dioglewch, Rheoli Gwrthdaro a Heddwch (Women in Security, Conflict Management and Peace (WISCOMP)), sydd yn hyrwyddo arweinyddiaeth gwragedd yn Ne Asia ym meysydd heddwch, diogelwch a chydweithio rhanbarthol.

Cynhelir y ddarlith ar y pwnc ‘Rescripting Security: Gender and Peacebuilding in South Asia’ am 6 o’r gloch nos Fawrth 28 Ebrill ym Mhrif Neuadd Adeilad Gwleidyddiaeth Rhyngwladol ar gampws Penglais ac mae ar agor i aelodau o’r cyhoedd. 

Bydd y ddarlith yn ymgais gan Dr Gopinath i fraenaru’r tir ar gyfer rhai o’r sialensiau a’r cyfleoedd a gwyd wrth adeiladu heddwch yn Ne Asia, yn enwedig wrth edrych arnynt drwy lens rhywedd. Mae’n trafod yr ymchwil am ystyr newydd, trosiadau newydd a geirfa amgen a all gynnwys yr hanner honno o’r boblogaeth, sef gwragedd, na chlywir eu lleisiau’n aml o fewn naratif diogelwch cenedlaethol. Bydd y sgwrs yn tynnu ar brofiad ac ymchwil WISCOMP, menter yn Ne Asia sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfranogaeth ac arweiniad gwragedd wrth drawsnewid gwrthdaro ac adeiladu heddwch.

Mae’r Sefydliad yn ddiolchgar iawn i Brifysgol Cymru am roi Cymrodoriaeth L. M. Singhvi 2008-09 i Dr Gopinath, i’w galluogi i ymweld ag Aberystwyth.

Dr Meenakshi Gopinath
Pennaeth Coleg Lady Shri Ram, Delhi Newydd a sefydlydd a chyfarwyddwraig bresennol Gwragedd mewn Diogelwch, Rheoli Gwrthdaro a Heddwch (Women in Security, Conflict Management and Peace (WISCOMP))

Mae Dr Gopinath yn aelod o ymgyrchoedd heddwch aml-lwybr yn Kashmir a rhwng India a Pakistan gan gynnwys Ymgyrch Heddwch Neemrana a Fforwm Heddwch a Democratiaeth Pobl India a Pakistan, a hi oedd y wraig gyntaf i wasanaethu ar Fwrdd Ymgynghorol ar Ddiogelwch India.

Ymysg nifer o weithiau, hi yw awdur Pakistan in Transition and co-authored Conflict Resolution - Trends and Prospects, Transcending Conflict: A Resource book on Conflict Transformation aDialogic Engagement

Yn ogystal mae wedi ysgrifennu penodau ac erthyglau mewn llyfrau a chyfnodolion ar Gandhi, gwleidyddiaeth Pakistan, y grefft o Ddatrys Gwrthdaro, a rhywedd ac adeiladu heddwch.  Mae ei diddordebau yn cynnwys hawliau dynol a rhywedd, trawsnewid gwrthdaro ac athroniaeth Bwdïaidd a Gandhïaidd.

Sefydliad Astudiaeth Rhyngwladol Coffa David Davies
Mae Sefydliad Astudiaeth Rhyngwladol Coffa David Davies yn rhan o’r Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol sydd ag iddi fri rhyngwladol. Cafodd ei sefydlu yn wreiddiol fel cyfrwng er mwyn dod â’r byd academaidd a byd polisi cyhoeddus rhyngwladol at eu gilydd.

Ers i’r ganolfan symud i Aberystwyth yn 2002 mae wedi cyfuno’r rôl hanesyddol o addysgu’r cyhoedd gyda datblygu ymchwil blaengar mewn meysydd sydd yn cynnwys adeiladu ymddiriedaeth rhyngwladol, gwrth-amlhad niwclear, cyfreithlondeb rhyngwladol, a’r cyfrifoldeb i amddiffyn.