Lansio app Cymraeg i'r iPhone

Yr Athro Chris Price (chwith) ac Adrian Shaw a fu'n lansio app i'r iPhone ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.

Yr Athro Chris Price (chwith) ac Adrian Shaw a fu'n lansio app i'r iPhone ar gyfer dysgwyr y Gymraeg.

04 Awst 2009

Cafodd Learn Welsh, ‘llawlyfr brawddegau' Cymraeg / Saesneg ar gyfer ei ddefnyddio ar iPhone diweddaraf Apple, y 3GS, ei lansio heddiw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala. 

Datblygwyd Learn Welsh gan yr Athro Chris Price, Pennaeth Adran Cyfrifiadureg y Brifysgol a dysgwr Cymraeg ac mae ar gael o ‘App Store’ iTunes am 59 ceiniog.

Seiliwyd y ‘llawlyfr brawddegau’ ar brofiadau Chris ei hun tra’n dysgu’r Gymraeg. Mae iddo ddeuddeg thema sydd yn cynnwys cyfarchion, brawddegau cyffredin, bwyd a diod, a theithio. Bydd dysgwyr sydd yn ymweld â’r Eisteddfod hefyd yn falch o glywed ei fod hefyd yn cynnwys adran ar y tywydd!

Yn ogystal â gweld y geiriau ysgrifenedig, mae Chris wedi recordio pob gair neu frawddeg er mwyn cynorthwyo gyda ynganiad. Mae’r app hefyd yn galluogi dysgwyr i brofi eu hunain wrth iddynt ddysgu.

Dywedodd Chris; “Mae nifer o apps ar gyfer dysgu ieithoedd eraill ar gael i ddefnyddwyr yr iPhone, e.e. mae 27 yn Ffrangeg, 23 ar gyfer dysgu Eidaleg, ac hyn yn oed un ar gyfer y Wyddeleg a Tagalog, iaith sydd yn cael ei siarad yn ynysoedd y Philipinau. Roedd yn hen bryd felly fod cymorth o’r math hwn ar gael i bobl sydd yn dysgu Cymraeg.”

Cafodd Learn Welshyn cael ei lansio gan Chris a Dr Adrian Shaw, Uwch Gymrawd Dysgu yn yr Adran Gyfrifiadureg. Fel rhan o’r cyflwyniad bu Adrian, sydd yn wreiddiol o Wiltshire ac a ddechreuodd ddysgu Cymraeg drwy wrando ar raglen Catchphrase ar BBC Radio Wales, yn esbonio sut mae adeiladu app ar gyfer yr iPhone.  

Mae’r Adran Gyfrifiadureg yn rhedeg y cwrs gradd hynod lwyddiannus a phoblogaidd mewn Cyfrifiaduron Gwisgadwy a Symudol, sydd yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr ddatblygu cymwysiadau ar gyfer yr i-Phone. Yn ogystal mae’r adran yn ddarparwr hyfforddiant cydnabyddedig i gwmnïoedd diwydiannol ym maes datblygu meddalwedd symudol.  

Mae Chris yn awyddus i ddatblygu Learn Welsh ymhellach ac yn gwahodd pobl i anfon eu hawgrymiadau at chrisinaber@googlemail.com.