Arolwg Myfyrwyr: Aberystwyth yn 4ydd yn y Deyrnas Gyfunol

Myfyrwyr ar gampws Prifysgol Aberystwyth

Myfyrwyr ar gampws Prifysgol Aberystwyth

18 Ionawr 2010

Myfyrwyr yn canmol Aber yn arolwg y Times Higher Education 

Mae dysgu ac addysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda’r gorau yn y Deyrnas Gyfunol, yn ôl Arolwg Profiad Myfyrwyr y Times Higher Education a gyhoeddwyd heddiw, Dydd Iau 14 Ionawr 2010.

Mewn tabl o’r deg sefydliad gorau ar gyfer dysgu ac addysgu, gosodwyd Prifysgol Aberystwyth yn 4ydd ar ôl Rhydychen (1af), Caergrawnt (2ail) a St Andrews (3ydd).

Unwaith eto eleni hefyd, dywed yr arolwg mai Aberystwyth sy’n cynnig y profiad gorau oll i fyfyrwyr yng Nghymru, gyda’r Brifysgol yn 6ed ar draws y DG.

Holwyd dros 11,000 o israddedigion llawn-amser mewn 104 o brifysgolion ar gyfer yr arolwg a wnaed gan Opinionpanel, asiantaeth sy’n arbenigo mewn ymchwil i’r farchnad myfyrywr.

Gofynwyd iddynt roi sgôr i’w prifysgol ar 21 o elfennau gwahanol sy’n cael eu hystyried yn allweddol wrth fesur profiad myfyriwr - gan gynnwys ansawdd y dysgu, gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, bywyd cymdeithasol ac adnoddau’r sefydliad.    

Roedd Aberystwyth hefyd ymhlith y deg uchaf ar gyfer darparu’r adnoddau gorau i fyfyrwyr, gan gyrraedd y 9fed safle ar draws y DG.

Dywedodd yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth: 

“Rydym wrth ein boddau bod Aberystwyth wedi cadw ei lle ar y brig yng Nghymru, a’n bod wedi codi o’r 8fed safle yn 2008 i’r 6ed safle yn 2009 ar draws y Deyrnas Gyfunol yn gyffredinol. Rydym yn hynod falch hefyd o weld bod myfyrwyr wedi gosod Aberystwyth yn 4ydd yn y tabl, yn seiliedig ar eu profiad o gael eu dysgu a’u haddysgu yma. Mae’r canlyniadau yma yn dyst i ansawdd y dysgu ac i broffesiynoldeb ac ymroddiad ein staff.

“Daw’r arolwg a gyhoeddwyd gan y Times Higher Education heddiw yn sgil cyfres o arolygon tebyg eraill sydd wedi gosod Aberystwyth yn gyson ymhlith y deg prifysgol sy’n cynnig y profiad gorau i fyfyrwyr. Mae derbyn adborth positif fel hyn gan fyfyrwyr, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn destun balchder mawr i ni, a hoffem ddiolch i bawb yn Aberystwyth am greu’r profiad hwn.

“Ein nod yw parhau i wella pob agwedd ar y profiad i fyfyriwr yma. Gall ein myfyrwyr presennol, a’r rhai fydd yn ymuno â nhw yn y dyfodol, fod yn gwbl hyderus o wybod eu bod yn mwynhau yr awyrgylch myfyrwyr gorau sydd gan y Deyrnas Unedig i’w gynnig.”

Mae casgliadau’r arolwg i’w gweld yn gyflawn ar wefan Times Higher Education: www.timeshighereducation.co.uk.

Yn Arolwg Myfyrwyr yr NSS ym mis Medi 2009, roedd Aberystwyth yn gydradd 6ed ar draws y Deyrnas Gyfunol ac ar y brig yng Nghymru o ran bodlonrwydd myfyrwyr. Dilynwch y ddolen ar frig ochr dde y dudalen hon am fanylion pellach.