Hawliau Rhieni ym Maes Addysg Plant

Dr Marco Odello (ar y dde) a Jill St George

Dr Marco Odello (ar y dde) a Jill St George

16 Ebrill 2010

Hawliau Rhieni ym Maes Addysg Plant

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i dewis i gynrychioli’r Deyrnas Gyfunol mewn prosiect ymchwil Ewropeaidd sy’n edrych ar hawliau rhieni ym maes addysg plant (Project IPPE: Indicateurs de participation des parents dans l’enseignement obligatoire).

Bydd y Dr Marco Odello (Prif Ymchwilydd) o Adran y Gyfraith a Throseddeg, a’i gynorthwyydd ymchwil Jill St George yn gweithio ar y prosiect am y ddwy flynedd nesaf ac maen nhw eisoes wedi dechrau ar y camau cyntaf.

Prifysgol Bergamo (Cadair UNESCO) yng ngogledd yr Eidal sy’n arwain y prosiect gyda chyfraniadau gan Brifysgol La Rioja (Sbaen), Prifysgol Aberystwyth (DG), OIDEL (Y Swistir), Pro Dignitae (Portiwgal), Cymdeithas Rhieni Ewropeaidd (Gwlad Belg) a’r Sefydliad Gwyddorau Addysg (Rwmania).

Prif amcan yr ymchwil yw gwerthuso hawliau rhieni parthed addysg eu plant. Defnyddir dangosiadau penodol i fesur ansawdd systemau addysg cenedlaethol mewn perthynas â hawliau’r prif rhanddeiliaid.

Ymhlith y meysydd a gaiff sylw yn yr adroddiad terfynol y mae: yr hawl i gael gwybodaeth (gan gynnwys mynediadau, cwricwlwm yr ysgol, arolygon); yr hawl i ddewis (gwahanol fathau o ysgolion); yr hawl i apelio (gan gynnwys materion disgyblu a mynediad), a’r hawl i gyfranogi (gan gynnwys Cymdeithasau Rhieni ac Athrawon a’u strywthurau rheoli).

Bydd adroddiadau’r gwledydd unigol yn cael eu dadansoddi gan Brifysgol Bergamo ac fe fydd astudiaeth gymharol yn cael ei chyhoeddi gan Raglen Dysgu Gydol Oes yr Undeb Ewropeaidd. Caiff y casgliadau eu cyflwyno’n swyddogol mewn digwyddiadau cyhoeddus ym Mrwsel (Undeb Ewropeaidd) a Genefa (Cenhedloedd Unedig).   

Y gobaith yw y bydd ysgolion cylch Aberystwyth yn rhan o’r ymchwil, ac y bydd cyfarfod yn cael ei gynnal yn lleol i gyhoeddi’r casgliadau yn sgil cyflwyno’r adroddiad terfynol. Bydd copi o’r adroddiad terfynol ar gael arlein.