Darlithydd Prifysol Aberystwyth yn Cipio Gwobr am Addysgu Rhagorol

Dr Elena Korosteleva yn derbyn ei gwobr

Dr Elena Korosteleva yn derbyn ei gwobr

20 Ionawr 2010

Darlithydd Prifysol Aberystwyth yn Cipio Gwobr am Addysgu Rhagorol

Mae’r Dr Elena Korosteleva, sy’n darlithydd mewn Gwleidyddiaeth Ewropeaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi ennill gwobr arbennig am ei chyfraniad at ddatblygu rhagoriaeth mewn dysgu.

Cyflwynwyd Gwobr BISA/C-SAP (2008-09) am ragoriaeth wrth ddysgu astudiaethau rhyngwladol i’r Dr Korosteleva yn ystod Cynhadledd C-SAP yn Birmingham ym mis Tachwedd 2009.

Mae’r wobr yn cael ei dyfarnu’n flynyddol gan Gymdeithas Astudiaethau Rhyngwladol Prydain  a Chanolfan Bwnc yr Academi Addysg Uwch ar gyfer Cymdeithaseg, Anthropoleg a Gwleidyddiaeth.

Wrth wneud eu penderfyniad, dywedodd aelodau’r pwyllgor gwobrwyo: "Yn ei hagwedd tuag at addysgu, mae’r Dr Elena Korosteleva yn ymdrechu i greu system addysgu a dysgu sy’n fyfyriol, yn holistaidd ac sy’n canolbwyntio ar anghenion y myfyriwr. Yn y pendraw, mae hyn yn meithrin sgiliau dysgu gydol oes a chadarn ymhlith ei myfyrwyr.

"Mewn modiwl Gwleidyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer myfyrwyr yr ail flwyddyn, fe fabwysiadodd ddulliau addysgu a oedd yn seiliedig ar ddysgu trwy brofiad ac ar ddealltwriaeth o gysyniadau trothwy. Roedd gweithgareddau’r dosbarth yn cynnwys ymarferion chwarae rôl a rheithgorau dinasyddion, ac fe’u lluniwyd er mwyn hwyluso adolygu ac annog gwerthusiad. Mae adborth myfyrwyr a dadansoddiad trylwyr o’r canlyniadau yn dangos y gwerth addysgiadol sy’n deillio o ddulliau addysgu sy’n seiliedig ar brofiad ac sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr.”

Ymunodd Dr Korosteleva â’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 2004 ac mae’n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch. Cwblhaodd ei Thystysgrif Uwchraddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (TUAAU) yn 2007 ac yn 2009 fe enillodd Wobr Rhagoriaeth Dysgu Prifysgol Aberystwyth. 

Yn sgil derbyn gwobr BISA/C-SAP, dywedodd Dr Korosteleva: "Pan ymunais â’r brifysgol, cefais gyfle i wneud y TUAAU. Roedd yn brofiad hynod ysgogol, yn arbennig felly y profiad o ddysgu sut mae gweithio’n rhyngweithiol gyda myfyrwyr. O bersbectif personol, mae gallu parhau i ddatblygu ymarfer academaidd wedi bod o fudd i mi ac i fy myfrywyr trwy gydol fy ngyrfa. 

“Rwyn teimlo’n lwcus iawn o fod wedi ennill y wobr hon ond mae angen cydnabod hefyd fy mod yn rhan o dîm ymroddedig sy’n mynd ati’n frwd i gefnogi ac i ddatblygu profiad dysgu myfyrwyr. Hoffem ddiolch i fy nghyd-weithwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol - y staff academaidd a’r staff cefnogol, i Dîm E-Ddysgu’r Gwasanaethau Gwybodaeth, ac i staff y Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd am bob cefnogaeth ac annogaeth.”

Dywedodd yr Athro Martin Jones, y Dirprwy Is-Ganghellor sydd â chyfrifoldeb dros Addysgu a Dysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Hoffem longyfarch Dr Korosteleva am ei hagwedd blaengar tuag at addysgu a dysgu. Mae gan Brifysgol Aberystwyth enw da fel sefydliad sy’n rhoi pwyslais ar safonau uchel o addysgu a dysgu ac asesu. Rydym yn cydnabod bod athrawon o’r radd flaenaf yn hanfodol er mwyn galluogi myfyrwyr i gyrraedd eu llawn potensial ac y byddan nhw, yn eu tro, yn dylanwadu ar ddyfodol ein  cymdeithas.

"Gall y rhan fwyaf ohonom gofio darlithydd o’n dyddiau Prifysgol a gafodd effaith bositif arnom ni a’n gwaith; maen nhw’n bobl ysbrydoledig sy’n dylanwadu er gwell ar brofiad myfyrwyr. Dyma beth yw camp rhagorol, wir.”