Gwobr Addysg Uwch y Frenhines

Yr Athro Noel Lloyd a'r Athro Wayne Powell yn derbyn y wobr oddi wrth y Frenhines a Dug Caeredin. Llun drwy law BCA Ltd.

Yr Athro Noel Lloyd a'r Athro Wayne Powell yn derbyn y wobr oddi wrth y Frenhines a Dug Caeredin. Llun drwy law BCA Ltd.

22 Chwefror 2010

Cyflwyno Gwobr Addysg Uwch y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth

Bu aelodau o staff a myfyrwyr ym Mhalas Buckingham ddydd Gwener 19eg Chwefror, i dderbyn Gwobr Addysg Uwch ac Addysg Bellach y Frenhines i Brifysgol Aberystwyth. Cyflwynwyd medal a thystysgrif gan y Frenhines a Dug Caeredin i’r Athro Noel Lloyd, Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac i’r Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS.

Mae’r wobr yn cydnabod gwaith gwyddonwyr yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) sydd wedi cyfuno gwaith ymchwil hanfodol i eneteg planhigion gyda thechnegau bridio planhigion yn llwyddiannus er mwyn datblygu mathau o blanhigion sydd yn fasnachol lwyddiannus ac yn ymateb i’r heriau sydd yn wynebu cymunedau ar draws y byd, sef sicrwydd cyflenwadau bwyd, dŵr ac ynni.

Mae'r rhain yn cynnwys gweiriau pori uchel eu siwgr sydd yn hawddach eu treulio, meillion gwyn sy’n fwy gwydn a chyson, ceirch o safon uchel, gweiriau chwaraeon gwell, a miled perlog (pearl millet) sydd yn medru gwrthsefyll heintiau ac a ddatblygwyd gyda bridwyr yn India.

Mae’r wobr hefyd yn cydnabod y ffordd y mae dysgu ac ymchwil ôl-raddedig mewn bridio planhigion a’r gwyddorau biolegol yn IBERS, sydd yn cyfuno sgiliau ymarferol â thechnegau genetig uwch, yn helpu i greu cenhedlaeth newydd o fridwyr planhigion.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd,
“Rwyf yn falch iawn fod Gwobr y Frenhines wedi ei dyfarnu i Brifysgol Aberystwyth. Mae’n gadarnhad o bwysigrwydd y gwaith sydd yn cael ei wneud yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.

“Mae’r Brifysgol yn ymroddedig i ymateb i’r materion pwysig ym maes gwyddor tir, ac er mwyn gwneud hynny mae gofyn magu ystod eang o arbenigedd. Mae yna gysylltiad di-dor rhwng ymchwil gwyddonol a dyfeisgarwch, ac mae trosglwyddo gwybodaeth wyddonol a thechnegol er mwyn cefnogi diwydiannau’r tir a datblygu polisi cyhoeddus yn nod pwysig iawn. Llongyfarchiadau cynnes iawn i bawb sydd yn ymwneud â’r gwaith yma sydd wedi arwain at gydnabyddiaeth mor nodedig.”

Dywedodd yr Athro Wayne Powell:
“Mae’n bleser gennyf dderbyn y wobr bwysig hon ar ran y gwyddonwyr a’r staff medrus ac ymroddgar yn IBERS. Mae’n gydnabyddiaeth o ymroddiad a gweledigaeth criw o bobl o’r radd flaenaf sydd wedi bod yn gweithio ar fridio planhigion yn Aberystwyth dros yr ugain mlynedd ddiwethaf, ac a adeiladodd ar sail gwaith sydd yn ymestyn dros y 91 mlynedd ers i’r Brifysgol sefydlu Bridfa Blanhigion Cymru yn 1919.”

“Mae’n fraint i IBERS gael adeiladu ar y seiliau yma o wybodaeth, medrusrwydd a chyraeddiadau er mwyn cofleidio ymchwil sydd yn cael ei yrru gan yr angen i ddarganfod a datrys er mwyn cael atebion i rai o’r anghenion enbyd sydd yn wynebu’r blaned.”

Roedd Irene Griffiths yn un o’r myfyrwyr a gafodd eu gwahodd i Balas Buckingham. Yn dod o Henffordd, mae Irene yn cwblhau ei doethuriaeth PhD ar hyn o bryd, ac wedi bod yn gweithio fel rhan o’r tim bridio ceirch; fe ddywedodd hi “ Roedd yn brofiad ffantastig. Fe gwrddom ni a’r Frenhines, Dug Caeredin a’r Dywysoges Frenhinol. Roeddwn yn edrych ymalen yn arw at fynd, chefais i ddim fy siomi.”

Mae Gwobr Addysg Uwch a Phellach y Frenhines yn cael ei dyfarnu bob yn ail flwyddyn i sefydliadau addysg uwch a phellach ar draws y Deyrnas Gyfunol am waith o ragoriaeth eithriadol. Mae’n dathlu llwyddiant o safon fyd-eang ac yn adlewyrchu amrywiaeth a safon uchel y gwaith sydd yn cael ei wneud yn ein prifysgolion a’n colegau addysg bellach.

Nôl i'r brig