IBERS

Campws Penglais

Campws Penglais

12 Chwefror 2010

Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth mewn cyfarfod heddiw, ddydd Gwener 12 Chwefror, wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i ailstrwythuro Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Tanlinellodd y Cyngor ei gefnogaeth lawn i IBERS a’i benderfyniad i greu sefydliad gwyddonol cystadleuol rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n darparu addysg, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth er mwyn ymgymerid â heriau’r 21ain ganrif.

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod IBERS yn wynebu diffyg ariannol sylweddol a chynyddol, sefyllfa sydd angen sylw ar unwaith i sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad, er mwyn gwireddu ei ddyhead i fod yn sefydliad o safon byd.

Penderfyniad y Cyngor yw ymateb i’r sefyllfa ariannol drwy ymgynghori yn llawn gydag aelodau staff a’r undebau llafur ac mewn modd a fydd yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol.

Y nod yw bod yr ailstrwythuro yn cael ei gwblhau, cyn belled ag sydd yn bosib, yn wirfoddol. Er hyn, mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd angen rhai diswyddiadau gorfodol o bosibl.

Mae’r broses ffurfiol yn mynd yn ei blaen, a bydd y Cyngor yn trafod y mater yn ei gyfarfod nesaf,  wedi iddo dderbyn adroddiad ac argymhellion.

Nôl i'r brig