Dethol Prifysgol Aberystwyth Ar Gyfer Cynllun Ysgoloriaethau’r Gymanwlad

Adran Astudiaethau Gwybodaeth

Adran Astudiaethau Gwybodaeth

17 Chwefror 2010

Dethol Prifysgol Aberystwyth Ar Gyfer Cynllun Ysgoloriaethau’r Gymanwlad

Mae Adran Astudiaethau Gwybodaeth Prifysgol Aberystwyth wedi ennill yr hawl i ddyfarnu pump ysgoloriaeth o bwys ar ran Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad.

Caiff yr ysgoloriaethau eu cynnig i fyfyrwyr dysgu-o-bell sy’n hanu o wledydd y Gymanwlad sy’n datblygu, ac sydd wedi cael cynnig lle ar raglen Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth (MSc Econ) yn Aberystwyth.

Sefydlwyd cynllun Ysgoloriaethau’r Gymanwlad ym 1959 ac mae’n cynnig oddeutu 750 o wobrau ar draws y Deyrnas Gyfunol bob blwyddyn.

Mae Prifysgol Aberystwyth eisoes yn cynnig Ysgoloriaeth y Gymanwlad i un myfyriwr llawn-amser bob blwyddyn ond dyma’r tro cyntaf i’r sefydliad wneud cais am yr hawl i ddyfarnu gwobrau i fyfyrwyr dysgu-o-bell. 

“Mae yna dipyn o gystadleuaeth ar gyfer yr ysgoloriaethau yma gyda cheisiadau yn dod gan amryw o sefydliadau pwysig, megis Prifysgol Llundain, Prifysgol Caerfaddon a sawl prifysgol  arall sy’n uchel eu parch. Ry’n ni’n falch iawn felly bod cais Aberystwyth wedi bod yn llwyddiannus,” meddai Hugh Preston, sy’n Uwch Diwtor Derbyniadau yn yr Adran ac a fu’n gyfrifol am lunio’r ddogfen gais ar gyfer Comisiwn y Gymanwlad.

“Mae’n ofynnol bod myfyriwr sy’n gwneud cais am un o’r ysgoloriaethau yn hanu o un o wledydd y Gymanwlad sy’n datblygu. Os ydynt yn llwyddiannus, fe fyddan nhw’n derbyn gwobr a fydd nid yn unig yn talu ei ffioedd dysgu ond a fydd hefyd yn rhoi lwfans byw hael iddyn nhw a’u galluogi i deithio o gwmpas y Deyrnas Gyfnol er mwyn gwneud gwaith ymchwil.”

Croesawyd penderfyniad Comisiwn Ysgoloriaethau’r Gymanwlad gan yr Athro Martin Jones, Dirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Un o’r prif feini prawf oedd gallu dangos bod ein cynllun Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgellyddiaeth (MSc Econ) yn cwrdd â Nod Mileniwm y Cenhedloedd Unedig sef darparu addysg i bawb. Mae’r nod hwn hefyd yn cael ei gefnogi gan Adran Datblygu Rhyngwladol y DG,” meddai.

“Yn eu cais, roedd yr Adran Astudiaethau Gwybodaeth a Llyfrgell yn gallu dangos yn glir y byddai myfyrwyr o wledydd sy’n datblygu yn cyfrannu at y nod hwn. O gwblhau eu cwrs yn Aberystwyth, byddai ganddyn nhw’r cymwysterau angenrheidiol i ddarparu addysg ar gyfer plant cynradd ar ôl dychwelyd adre i’w gwledydd eu hunain. Mae hwn yn gyrhaeddiad unigryw sy’n dangos bod DIS ar flaen y gad yn ei maes.”

Ceir rhagor o fanylion am yr ysgoloriaethau ynghyd â chyfarwyddiadau ar gyflwyno cais ar wefan Swyddfa Derbyn Uwchraddedig Prifysgol Aberystwyth (gweler y ddolen ar frig y tudalen). http://www.aber.ac.uk/pga.