Myfyrwraig Celf o Aberystwyth yn Ennill Gwobr £10,000

Lauren Sarreas Webb

Lauren Sarreas Webb

23 Chwefror 2010

Myfyrwraig Celf o Aberystwyth yn Ennill Gwobr £10,000

Mae myfyrwraig celf o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill gwobr gwerth £10,000 i greu darn o waith celf cyhoeddus yng Nghymru.

Dyfarnwyd y wobr i Lauren Sarreas Webb gan Safle - ymgynghoriaeth gelf annibynnol o Gaerdydd ac un o’r cyrff celf cyhoeddus mwyaf yng ngwledydd Prydain.

Ar gyfer Gwobr Graddedigion Safle 2010, gofynwyd i naw o ysgolion celf Cymru enwebu tri o fyfyrwyr yr un oedd ar fin cwblhau gradd BA yn y celfyddydau gweledol.

Dewiswyd chwech ar gyfer y rhestr fer ac yn dilyn cyfres o gyfweliadau, penderfynwyd dyfarnu’r wobr i Lauren Sarreas Webb o Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

“Mae gwaith Lauren yn delio gyda chysyniadau o hunaniaeth a syniadau am yr hunan. Roedd y panel o’r farn bod eu hagwedd gyfoes tuag at gelf cyhoeddus a’r posibliadau ar gyfer datblygu ei gwaith ymhellach i’r cyfeiriad hwn yn hynod gyffrous,” meddai Cinzia Mutigli o Safle sy’n rheoli’r cynllun gwobrwyo.

“Dangosodd Lauren bod ganddi frwdfrydedd, ygogiad ac egni tuag at ei gwaith ymarferol yn ogystal ag ystod o ddoniau technegol ac mae sgiliau o’r fath yn ddefnyddiol iawn mewn prosiect artistig.”

Ar ôl graddio yn yr haf, bydd Lauren yn dechrau ar y gwaith o ymchwilio, datblygu a chreu darnao waith celf dros-dro yn perthyn i leoliad arbennig a hynny gyda chyngor a chefnogaeth gan Safle.
 
“Mae’n anodd credu fy mod wedi ennill y wobr arbennig yma ond mae’r newyddion wedi rhoi  hwb mawr i mi. Mae fy ngwaith yn seiliedig ar greu cymeriadau a delweddau o fy hunan sydd dipyn yn fwy na’r cyffredin, ac fe fyddai’n bosib arddangos fy ngwaith mewn unrhyw fath o leoliad,” meddai Lauren sy’n 21 oed ac yn hanu o Swydd Efrog.

“Mae Ysgol Gelf Prifysgol Aber yn gosod seiliau cadarn ar gyfer arlunio, paentio, ffotograffiaeth ac argraffu, ac mae cyfle wedyn i ddod â’r elfennau yma i gyd ynghyd, gan ysgogi rhywun i feddwl yn wirioneddol greadigol ynglyn â sut i weithredu ei syniadau oherwydd mae celf o’n cwmpas ymhobman – nid ar waliau’n unig. Mae tiwtoriaid yma yn ein hannog i feddwl ar raddfa fwy, y tu hwnt i ffiniau posibliadau arferol a chyfyngiadau byd addysg.”

Mae Miranda Whall yn ddarlithydd yn Ysgol Gelf Aberystwyth ac mae wedi dysgu Lauren yn ystod y tair blynedd diwethaf.

“Rwyf wrth fy modd bod Lauren wedi ennill. Bydd hyn yn gyfle ardderchog iddi bontio’r cyfnod anodd hwnnw rhwng bod mewn Ysgol Gelf a bod yn artist proffesiynol,” meddai.

“Bydd yn ei galluogi i ddatblygu ymhellach y gwaith unigryw, idiosyncrataidd a dewr mae wedi bod yn ei ddatblygu dros y flwyddyn diwethaf. Rwyf yn falch iawn o Lauren a’i gwaith, a fedrai ddim meddwl am fyfyriwr arall sy’n haeddu’r wobr hon cymaint â hi.”

Dyma’r ail flwyddyn i Safle ddyfarnu’r wobr yma. Myfyriwr o Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd, Alistair Owen, a fu’n fuddugol yn 2009.