Un o brif ysgolheigion America i draddodi Darlith Gregynog 2010

Yr Athro Robert D Putnam o Brifysgol Harvard

Yr Athro Robert D Putnam o Brifysgol Harvard

10 Mawrth 2010

Darlith Gregynog 2010
‘Oes Obama a Her Cymdeithas Amlethnig’

Un o brif ysgolheigion America - yr Athro Robert D Putnam o Brifysgol Harvard - fydd yn traddodi Darlith Gregynog 2010.

Testun y ddarlith fydd ‘Oes Obama a Her Cymdeithas Amlethnig’ ac fe fydd yn dechrau am 7 o’r gloch Nos Iau 18 Mawrth 2010 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Mae’r Athro Putnam yn cael ei ystyried yn un o academyddion mwyaf amlwg ei faes. Yn aelod  Academi Gwyddorau America a’r Academi Brydeinig, fe enillodd wobr Johan Skytte a wleidyddiaeth wyddonol yn 2006 ac yn 2005, a cafodd ei gynnwys ar restr papur newydd y Guardian o’r 100 o brif ddeallusion y byd.
 
Ar hyn o bryd, Robert Putnam yw Athro Polisi Cyhoeddus Harvard (Cadair Peter a Isabel Malkin) ond mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Adran Astudiaethau Llywodraeth Harvard, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudiaethau Rhygwladol, a Deon Ysgol Lywodraeth John F. Kennedy School of Government. Mae hefyd yn Athro Gwadd ym Mhrifysgol Manceinion.

Mae’r Athro Putnam wedi ysgrifennu dwsin o lyfrau ac mae ei waith wedi’i gyfieithu i 17 o ieithoedd gwahanol. Ymhlith ei gyhoeddiadau mae Bowling Alone: The Collapse and Revival of American Community (2000) a welodd werthiant mawr. Mae ei ymchwil ddiweddaraf yn canolbwyntio ar yr her o adeiladau cymuned mewn cymdeithas gynyddol amrywiol.

Yn ei ddarlith yn Aberystwyth, bydd yr Athro Putnam yn dadlau bod yr Unol Daleithiau wrth ethol Barack Obama wedi dewis nid yn unig arweinydd sy’n symbol o’r undod rhwng pobl wyn a phobl ddu America. Mae’r wlad hefyd wedi dewis Arlywydd sy’n adlewyrchu’r cysylltiadau rhwng Americanwyr sydd wedi hen sefydlu a newydd-ddyfododiaid i’r wlad. 

Bydd yr Athro Putnam yn gofyn a yw ethol Obama yn debygol o arwain at newid ehangach yn y ffordd y mae mewnfudwyr a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu trin - ac os felly, oes yna newidiadau tebyg ar droed ym Mhrydain? Neu ai’r gwir yw bod stori Obama yn un sy’n perthyn i America’n unig?

Mae mynediad i Ddarlith Gregynog am ddim ac mae croeso i bawb.