Academydd yn Arddangos Ymchwil Gofod a Roboteg yn San Steffan

Stephen Pugh, Adran Gyfrifiadureg

Stephen Pugh, Adran Gyfrifiadureg

07 Mawrth 2010

Academydd o Aberystwyth yn Arddangos Ymchwil Gofod a Roboteg yn San Steffan

Bydd gwaith ymchwil gan academydd o Aberystwyth ar robot fydd yn tynnu lluniau wrth chwilio am arwyddion o fywyd ar blaned Mawrth yn cael ei gyflwyno ym Mhalas Westminster Ddydd Llun 8 Mawrth 2010. 

Mae Stephen Pugh o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth wedi’i ddewis i fod yn rhan o gystadleuaeth wyddonol o’r enw SET for Britain 2010.

Bydd yn cyflwyno casgliadau’r ymchwil mae’n ei wneud ar gyfer cynllun ExoMars – prosiect gwerth €1 biliwn sy’n cael ei arwain gan Asiantaeth Gofod Ewrop, ar y cyd â NASA. 

“Fel rhan o gyrch ExoMars, bydd cerbyd robotig crwydrol yn cael ei anfon i blaned Mawrth yn 2018 ac mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar reoli’r camerau ar fwrdd y cerbyd hwnnw. ‘Dwi wedi bod yn edrych yn bendodol ar sut mae modd i’r cerbyd anelu’r camerau at dargedau penodol fel creigiau heb ymyrraeth ddynol,” eglurodd Stephen.

“Agwedd arall ar fy ngwaith ymchwil yw asesu sut mae danfon delweddau yn ôl i’r Ddaear o fewn yr amser byrraf posib. Dylem bellach fod yn gallu anfon lluniau yn ôl o fewn un diwrnod yn hytrach na thridiau, gan roi i ni wybodaeth hanfodol am amgylchiadau’r cerbyd a’r hyn sydd yn y bôn yn amgylchedd dieithr iawn i ni.”

Sefydlwyd cystadleuaeth ac arddangosfa posteri SET for Britain ym 1997 er mwyn tynnu sylw Aelodau Seneddol at waith ymchwil gwyddonwyr, peiriannwyr a thechnolegwyr sydd yng nghyfnod cynnar eu gyrfa.

Caiff gwobrau eu dyfarnu ar gyfer y posteri gwyddonol gorau, gan gynnwys Medal Wharton, sy’n cael ei rhoi er cof am y diweddar Dr Eric Wharton a sefydlodd y digwyddiad.

Dywedodd yr Athro Dave Barnes, Pennaeth Gwyddor y Gofod a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth University: “Mae hon yn gystadleuaeth o fri yn y Deyrnas Gyfnol a chaiff cystadleuwyr eu dethol ar y sail y gwaith ymchwil gorau posib. Rwyf wrth fy modd fod  Stephen wedi’i ddewis i arddangos ei waith yn Nhŷ’r Cyffredin.”