Athronydd amlwg yn areithio yn Aber

Y Farwnes Onora O'Neill

Y Farwnes Onora O'Neill

23 Mawrth 2010

Bydd un o athronwyr mwyaf blaenllaw Prydain - y Farwnes Onora O’Neill - yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Mawrth 2010.

‘Gwyrdroi Ymddiriedaeth’ yw teitl y ddarlith a gaiff ei chynnal am 7 o’r gloch Nos Fercher 10 Mawrth 2010 ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Bydd y Farwnes O’Neill yn trafod sut mae barnu gonestrwydd, dibynadwyedd, cymhwysedd pobl eraill fel bod modd gwneud penderfyniad deallusol cyn dewis ymddiried neu beidio ymddiried ynddynt.

Yn enedigol o Ogledd Iwerddon, mae’r Farwnes O’Neill yn Athro Athroniaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt, yn gadeirydd Sefydliad Nuffield, yn gyn lywydd yr Academi Brydeinig (2005-2009) ac mae’n eistedd ar y meinciau croes yn NhÅ·’r Arglwyddi.

Mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar athroniaeth wleidyddol a moeseg, cyfiawnder rhyngwladol, bio-foeseg ac athroniaeth Immanuel Kant.

Ymhlith ei chyhoeddiadau y mae Rethinking Informed Consent in Bioethics (2007 - gyda Neil Manson), Autonomy and Trust in Bioethics (2002), A Question of Trust: The BBC Reith Lectures 2002, Bounds of Justice (2000),Constructions of Reason: Exploration of Kant’s Practical Philosophy (1989).

Mae’r ddarlith yn agored i aelodau’r cyhoedd ac mae mynediad am ddim.