Athro'r Gyfraith yn annog prifysgolion i gyfrannu at ddatblygu deddfwriaeth Gymreig

Yr Athro John Williams

Yr Athro John Williams

06 Mawrth 2010

Athro’r Gyfraith yn Aberystwyth yn annog prifysgolion i gyfrannu at ddatblygu deddfwriaeth Gymreig

Dywed pennaeth ysgol y gyfraith hynaf Cymru bod gan brifysgolion gyfraniad holl bwysig i’w wneud ym maes datblygu polisi yn sgil datganoli.

Fe wnaed y sylwadau gan Bennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro John Williams, ar drothwy digwyddiad arbennig ym Mae Caerdydd Ddydd Mawrth 9 Mawrth 2010 ar gyfer cyn-fyfyrwyr, gwleidyddion a chynrychiolwyr y proffesiwn cyfreithiol.

Dywedodd yr Athro Williams bod sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol wedi esgor ar amgylchedd ddeddfwriaethol newydd yng Nghymru ac wedi arwain at gynnydd yn y galw am gyfreithwyr â dealltwriaeth o’r setliad cyfansoddiadol a’i esblygiad.

“Ers ei sefydlu, mae Adran y Gyfraith Aberystwyth wedi gwneud cyfraniad i faes datblygu polisi – ar lefel genedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol,” meddai’r Athro Williams. “Mae gennym hefyd draddodiad o ddarparu graddedigion o’r radd flaenaf ar gyfer y proffesiwn cyfreithiol. Mae datganoli grym o San Steffan ers 1999 wedi rhoi ysgogiad pellach i’r cyfraniad hwn, wrth i ni symud ymhellach oddi wrth system cyfreithiol sy’n seiliedig ar gyfreithiau Lloegr yn unig.

“Rydym yn cydnabod ymhellach bod y defnydd o’r Gymraeg yn y system cyfreithiol yn dod yn fwy fwy pwysig. Mae’r Dr Catrin Huws yn gyfrifol am ddatblygu addysg cyfrwng Cymraeg yr Adran ac yn ystod y digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan yr Adran yng Nghanolfan y Mileniwm ar y 9fed o Fawrth, fe fydd hi’n siarad am yr her o ddarparu graddedigion Cymraeg eu hiaith.”

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth eisoes yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at y gwaith o ddatblygu polisi ym Mae Caerdydd.

Ar ran Comisynydd Pobl Hŷn Cymru, mae’r Athro Williams wrthi’n edrych ar y ddeddfwriaeth sy’n diogelu pobl oedrannus rhag cael eu camdrin.

“Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i benodi Comisynydd Pobl Hŷn ond mae diddordeb bellach o du llywodraethau datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae llywodraeth Seland Newydd hefyd yn dangos diddordeb ac mae hyn yn dangos sut mae modd gweithredu yng Nghymru er budd pobl Cymru tra hefyd yn gwneud cyfraniad ar lwyfan rhyngwladol, ehangach,” meddai’r Athro Williams

Dan arweinyddiaeth yr Athro Alan Clark, mae Grŵp Ymchwil Troseddeg yr Adran yn arbenigo mewn astudiaethau sy’n gysylltiedig â pholisi yng Nghymru, yn enwedig materion sy’n ymwneud â diogelwch cymunedol.

Ar hyn o bryd, mae’r Grŵp yn gwneud gwaith ymchwil ar drais yn y cartref ar ran   Llywodraeth y Cynulliad a’r Swyddfa Gartref. Mae’r prosiect yn edrych ar y berthynas rhwng trais yn y catref a chamddefnyddio sylweddau, ac yn dadansoddi sut y mae asiantaethau gwahanol – y statudol a’r gwirfoddol – yn ymateb i anghenion dioddefwyr a throseddwyr.

Yn ei gyflwyniad ym Mae Caerdydd, bydd yr Athro Clarke yn pwysleisio bod cydweithio rhwng gwneuthurwyr polisi, gweithwyr proffesiynol yn y maes ac ymchwilwyr yn holl bwysig er mwyn creu polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.  

Y prif siaradwr gwadd ar y 9fed o Fawrth 2010 fydd Nicholas Cooke QC, a raddiodd o Brifysgol Aberystwyth ym 1975 ac sydd ar hyn o bryd yn Gofiadur Caerdydd.

Mae nifer o gyn-fyfyrwyr yr Adran hefyd wedi eu gwahodd, gan gynnwys y Prif Weinidog Carwyn Jones AC; Nicholas Bourne AC, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig; y cyn Dwrne Cyffredinol yr Arglwydd John Morris a’r cyn Farnwr, yr Arglwydd Elystan Morgan.

“Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle i ni amlygu a dathlu gwaith yr Adran a fydd yn 110 mlwydd oed y flwyddyn nesaf,” meddai’r Athro John Williams.

Sefydlwyd Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth ym 1901 ac mae ganddi bellach dros 800 o is-raddedigion ac ol-raddedigion, gan gynnwys dros 100 o fyfyrwyr o Malaysia sydd wedi bod yn anfon myfyrwyr i’r Adran ers y 1940au.