Adnewyddu Canolfan y Celfyddydau

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth

03 Mehefin 2010

Prosiect Adnewyddu Canolfan y Celfyddydau 2010 - gwaith ar fin dechrau!

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cael newid ei gwedd yn ystod mis Mehefin wrth iddi ffarwelio â’r hen garpedi a dodrefn a gosod rhai newydd smart yn eu lle! Gosodir llawr pren hyfryd trwy’r adeilad, ceir byrddau a chadeiriau newydd yn y caffi a’r bar ac hefyd
bydd nifer o soffas newydd cyfforddus yn ymddangos.

Mae’r Ganolfan yn bwriadau aros ar agor yn ystod y cyfnod hwn a gobeithir ymgymryd â’r gwaith gyda’r amhariad lleiaf posibl ar ein rhaglen arferol o weithgareddau. Ond yn ystod mis Mehefin ni ellir osgoi’r ffaith y bydd mynediad i’n gwahanol gyfleusterau yn cael ei effeithio o bryd i’w gilydd, a threfnir nifer o ffyrdd gwahanol i mewn i’r adeilad. Cynghorir cwsmeriaid i ganiatau ychydig o amser ychwanegol wrth iddynt ymweld â’r Ganolfan ac os oes ganddynt bryderon neu gwestiynau penodol ynglyn â mynediad, i godi’r rhain gyda’n staff wrth archebu eu tocynnau. Bydd ‘na ddigon o arwyddion i fyny i’ch helpu i ffeindio’ch ffordd ‐ felly dilynwch y saethau!

Mae’r Ganolfan yn gobeithio y byddwch yn amyneddgar tra bod y gwaith hwn ar y gweill a gellir eich sicrhau, beth bynnag yw’r sefyllfa, ‘bydd y sioe yn mynd yn ei blaen’! Mae’r gwaith yn dechrau ar 7fed Mehefin ac yn parhau tan yr wythnos gyntaf ym mis Gorffennaf.

Ymgymerir â’r gwaith mewn un rhan o’r adeilad ar y tro er mwyn minimeiddio’r effaith ar y rhaglen o weithgareddau.

Noddwyd y prosiect gan Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2007‐2013 gyda chefnogaeth ariannol oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.