Beth yw'r syniad mawr?

Beth yw'r syniad mawr? Wythnos y Prifysgolion

Beth yw'r syniad mawr? Wythnos y Prifysgolion

11 Mehefin 2010

Wythnos y Prifysgolion - Dathliad o Brifysgol Aberystwyth

Mae Prifysgol Aberystwyth yn chwarae rhan yn yr ymgyrch genedlaethol a drefnwyd er mwyn tynnu sylw at rôl ehangach prifysgolion o fewn eu cymunedau lleol, ac ar lefel genedlaethol a byd-eang.

Thema Wythnos y Prifysgolion, sydd wedi ei threfu gan Universities UK, yw ‘Beth yw’r Syniad Mawr?’. Mae’n rhedeg o’r 14-20 Mehefin ac yn gyfle i Brifysgolion dynnu sylw cynulleidfa eang at eu llwyddiannau.
Mae Prifysgol Aberystwyth yn parhau i chwarae rôl bwysig yng Nghanolbarth Cymru fel addysgwr, cyflogwr a chefnogwr busnesau a sefydliadau eraill.
Yn ystod yr wythnos, bydd y Brifysgol yn dathlu ei llwyddiannau gan wahodd unigolion i ddysgu mwy am y Brifysgol a’r rôl amhrisiadwy mae’n chwarae yn yr ardal leol.

Wrth wneud sylw ar y Brifysgol y chwarae rhan yn ymgyrch Universities UK, dywedodd Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor y Brifysgol: “Rwyf yn hynod falch o’r hyn y mae’r Brifysgol, ei staff, myfyrwyr a’i chyn-fyfyrwyr yn ei gyflawni.  Mae ei llwyddiannau cynyddol ar lefel lleol, cenedlaethol a byd-eang yn hynod galonogol. Mae cael cymryd cam yn ôl yn ystod Wythnos y Prifysgolion er mwyn sylwi ar yr hyn y mae’r Brifysgol wedi ei gyflawni ers ei sefydlu yn 1872 yn destun boddhad mawr, ac rwyf yn mawr obeithio y bydd ein twf a’n ffyniant yn parhau yn hir i’r dyfodol.”

Prifysgol Aberystwyth Sefydlwyd 1872

Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth ar y 16 o Hydref 1872 pan groesawodd Thomas Charles Edwards, gyda chymorth dau Athro a Chofrestrydd-Llyfrgellydd, ddau ddeg chwech o fyfyrwyr i hen westy, yr Hen Goleg fel y mae’n cael ei adnabod bellach. Ar y diwrnod, cafwyd dydd gŵyl cyffredinol yn Aberystwyth “areithiau huawdl a niferus, cerddoriaeth a chanu ysgafngalon; yr oedd y cyfan yn destun llawenydd a gorfoledd i’w ryfeddu.”
Mae’r Brifysgol yn uchel ei pharch o fewn y gymuned leol a Chymru.  Ym 1875, cyhoeddodd capeli Anghydffurfiol Cymru y byddai casgliad Sul olaf mis Hydref, sef Sul y Brifysgol, yn cael ei gyfrannu i Aberystwyth.  Cyfrannodd dros 70,000 o bobl symiau mân yn bennaf, sef y cyfan y gallent fforddio ei roi, a chodwyd £3,100.  Mae’r cynhesrwydd a’r anwyledd tuag at y Brifysgol yn parhau hyd heddiw ac yn cael ei adlewyrchu gan y gefnogaeth tuag at y Gronfa Flynyddol 2009/10 gan ei alumni, staff a chyfeillion y Brifysgol.

Sefydliad sydd wedi ennill gwobrau

Mae gan Brifysgol Aberystwyth sawl gwobr i’w henw.  Un o’r llwyddiannau mwyaf nodedig diweddar yw Gwobr Pen-blwydd Coroni’r Frenhines a ddyfarnwyd i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) am eu gwaith ymchwil.  Mae gwobrau ychwanegol yn cynnwys Safon yr Ymddiriedolaeth Garbon, statws Masnach Deg, Gwobr Ymddiriedolaeth Ddinesig am adeiladau Canolfan y Celfyddydau ynghyd a nifer o wobrau i staff am safon eu dysgu ag ymchwil.

Efallai mai’r wobr ddiweddaraf fwyaf sylweddol, yw i’r Brifysgol gael ei hethol fel ‘mwy na thebyg y lle gorau yn y byd i fod yn fyfyriwr’ yn y Baromedr Myfyrwyr Rhyngwladol 2009.  Mae hyn yn adlewyrchu perfformiad aruthrol y Brifysgol ym mhob un o arolygon barn o foddhad myfyrwyr, gyda’r mwyaf nodedig yn eu plith, yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol.  Mae safle’r Brifysgol ar dabl cynghrair Addysg Uwch wedi cryfhau - eleni’n symud i fyny 22 lle yn y Guardian, 6 lle yn y Times Higher Education University Guide a 7 lle yng nghynghrair yr Independent.

Ymchwil arweiniol byd-eang


Mae bron i 50% o’r ymchwil a ymgymerir gan Brifysgol Aberystwyth o safon fyd-eang neu’n rhyngwladol ardderchog yn ôl yr Ymarfer Asesiad Ymchwil ddiweddaraf.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio ar amrediad eang dros ben o waith ymchwil academaidd sydd ar flaen y gad yn fyd-eang gan gynnwys gwaith i hanes y Celtiaid yn Thracia gan Adran y Gymraeg; yr her o hybu ymddiriedaeth mewn byd niwclear gan Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol; effeithiau cynhesu’r byd ar gapiau iâ pegynol gan Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear; ymchwil Ffrwydradau Solar gan Sefydliad Mathemateg a Ffiseg; Technoleg Synhwyro Celwydd a Roboteg y Gofod gan yr Adran Gyfrifiadureg; ymchwil i rôl ofergoeledd ymysg chwaraewyr pêl droed yn Ghana gan yr Adran Seicoleg a gwaith ymchwil a datblygu cnydau newydd gan IBERS i enwi ychydig.

Alumni nodedig

Mae’r rhestr o alumni nodedig o Brifysgol Aberystwyth yn cynyddu’n sylweddol bob blwyddyn ag yn cynnwys awduron cyhoeddedig, arweinwyr byd busnes, gwleidyddion a sêr y sgrin a’r llwyfan.  Ymysg rhai o’r cyn-fyfyrwyr adnabyddus mae’r canlynol:

Tom Singh yw sylfaenydd y cwmni dillad ffasiynol New Look. Fe lwyddodd Mr Singh i draws newid strydoedd mawr ar draws y Deyrnas Gyfunol gyda’i ddillad fforddiadwy a chyraeddadwy ar gyfer unigolion a’i blys ar fod yn ffasiynol.  Fe arnofiwyd cwmni Mr Singh ar y gyfnewidfa stock ym 1998 ac fe restrir Mr Singh ar restr y Rich List 2010 y Sunday Times gyda ffortiwn a amcangyfrifir i fod yn £515 miliwn.  

Carwyn Jones AM yn raddedig yn y Gyfraith o’r Brifysgol; Mr Jones yw Prif Weinidog Cymru.
 
Berlinda Earl yw Prif Weithredwr cwmnïau dillad Jaeger ag Aquascutum.  Cyn ei swydd bresennol hi oedd Prif Weithredwr Grŵp Debenhams.  Mae rhestr Rich List 2010 y Sunday Times yn amcangyfrif ei chyfoeth i fod oddeutu £70m.  Mae hi hefyd yn Gymrawd o’r Brifysgol.

Sharon Maguire
, yn raddedig mewn Saesneg a Drama, mae’n gyfarwyddwr ffilm sydd fwyaf adnabyddus am ei gwaith wrth gyfarwyddo’r ffilm enwog Bridget Jones’ Diary.   

John Dawes yn gyn chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru a chapten tîm Cymru yn 1970 a arweiniodd y tîm i ennill y Gamp Lawn yn 1971.  Yn ystod yr un flwyddyn bu’n gapten ar y Llewod Prydeinig gan eu harwain i’r fuddugoliaeth gyfres gyntaf yn erbyn Seland Newydd.

Catherine Jane Bishop
yn Bencampwr Rhwyfo'r Byd a chanddi Radd Meistr mewn Gwleidyddiaeth Rhyngwladol o Aberystwyth.  Fe enillodd fedal arian yn y par menywod yn 1998, medal aur yn 2003 a medal arian yn y Gemau Olympaidd yn Athens yn 2004 fel un hanner o bar rhwyfo. Ymddeolodd o rwyfo yn 2004 gan fynd i weithio i’r Swyddfa Dramor.
 
Melanie Walters yn raddedig mewn Drama ag yn actores brofiadol, efallai’n fwyaf adnabyddus fel Gwen yng nghyfres gomedi'r BBC sydd wedi ennill sawl gwobr ‘Gavin & Stacey’.

Tan Sri Ahmad Don, yn raddedig mewn Economeg a Busnes ag yn gyn Rheolwr ar Fanc Negara Malaysia.

Kabbah Alhaji Ahmad Tejan
yn raddedig o Aberystwyth mewn Economeg gyda Hanes a’r Gyfraith. Ef oedd cyn Arlywydd Sierra Leone.

Y.A.M. Tunku Naquiyuddin Ibni Tuanku Ja’afar yn raddedig mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth.  Mab hynaf eu Huchelder Brenhinol, Yang di Pertuan Besar o Negeri Sembilan a Tunku Ampuan, a Chadeirydd y busnes teuluol Syarikat Pesaka Antah Sdn. Bhd tan 1994.  Fe adawodd y swydd er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau fel Rhaglyw Negri Sembilan Darul Khusus yn ystod teyrnasiad ei dad fel Brenin Malaysia.
 
Sir David Prosser, cyn Prif Weithredwr un o gwmnïau ariannol blaenllaw y DG, Legal & General, a raddiodd gyda BSc mewn Mathemateg o’r Brifysgol ym 1965.
 
Angela Tooby-Smith yn aelod o glwb rhedeg y Brifysgol a aeth ymlaen i ennill medal efydd am y ras 10,000m yng Ngemau’r Gymanwlad ym 1986 a chystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Seoul yn 1988.
 
Louise Rickard yn raddedig mewn Sŵoleg ag yn chwaraewr rygbi rhyngwladol dros Gymru.  Hi yw’r chwaraewr rygbi menywod sydd wedi ennill y mwyaf o gapiau ers iddi gychwyn chwarae dros Gymru ym 1993.

Gwahoddir unigolion sydd awydd dysgu mwy am weithgareddau Prifysgol Aberystwyth i gwrdd â chynrychiolwyr o’r Brifysgol ar stondinau gwybodaeth a gynhelir mewn amryw o lefydd yn ystod yr wythnos.  Ceir rhagor o fanylion am yr holl weithgareddau a gaiff eu trefnu gan y Brifysgol yn www.aber.ac.uk/newyddion.