Wythnos y Prifysgolion

Chwith i’r Dde. Yr Athro Michael Foley, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Mr Mark Williams AS, Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Mr Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth yn lansiad Wythnos y Prifysgolion.

Chwith i’r Dde. Yr Athro Michael Foley, Pennaeth Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol, Mr Mark Williams AS, Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, a Mr Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth yn lansiad Wythnos y Prifysgolion.

14 Mehefin 2010

AS yn lansio Wythnos y Prifysgolion ym Mhrifysgol Aberystwyth

Bu Mark Williams AS, Aelod Seneddol Ceredigion, yn lansio Wythnos y Prifysgolion yn swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun 14 Mehefin 2010.

Bydd Wythnos y Prifysgolion ar y thema ‘Beth yw’r Syniad Mawr?’, a drefnir gan Universities UK, yn rhedeg o 14 i 20 Mehefin, ac yn rhoi cyfle i Brifysgolion godi ymwybyddiaeth o’u llwyddiannau ymhlith cynulleidfa ehangach.

Cyn-fyfyriwr y Brifysgol yw Mark Williams; un o ddeuddeg o raddedigion o Brifysgol Aberystwyth a etholwyd i’r Senedd yn yr Etholiad Cyffredinol diweddar. Yn y lansiad, daeth Mr Williams, a astudiodd Wleidyddiaeth ac a raddiodd yn 1987, yn ôl i’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, adran sy’n fawr ei bri, ar Gampws Penglais. Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu Mr Williams ag Is-Ganghellor y Brifysgol; Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Julian Smyth; Pennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yr Athro Michael Foley; a staff yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Wrth sôn am ymweliad Mr Williams a lansiad Wythnos y Prifysgolion, dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, “Mae’n fraint cael ein Haelod Seneddol lleol, sydd yn gyn-fyfyriwr y Brifysgol, yma i lansio’r wythnos bwysig hon. Mae Wythnos y Prifysgolion yn rhoi cyfle penigamp inni i ddathlu llwyddiannau’r Brifysgol, ei myfyrwyr, ei staff a’i chyn-fyfyrwyr.”

“Mae prifysgolion yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas,” meddai Mr Williams, AS, “ac maent yn cyfrannu’n sylweddol at ein heconomïau lleol a chenedlaethol. Mae’n anrhydedd imi lansio Wythnos y Prifysgolion ym Mhrifysgol Aberystwyth. A minnau’n gyn-fyfyriwr ac Aelod Seneddol, rwy’n gwerthfawrogi’n ddirfawr bwysigrwydd sefydliadau o’r fath a’u cyfraniad o ran datblygu unigolion, cymunedau a’n gwlad i gyd.”

Dywedodd yr Athro Michael Foley, Pennaeth Gwleidyddiaeth Ryngwladol: “Rydym wrth ein bodd cael Mr Williams yn ôl yn y Brifysgol yn ystod Wythnos y Prifysgolion, yn yr Adran lle y bu’n astudio. Mae bob amser yn bleser croesawu ein cyn-fyfyriwr.”

Ac fe ddywedodd Julian Smyth, Cyfarwyddwr Datblygu a Chysylltiadau Alumni Prifysgol Aberystwyth, “Wrth ddathlu’r cyfraniad y mae’r Brifysgol yn ei wneud i ystod amrywiol o weithgareddau a llwyddiannau, rwyf yn enwedig o falch bod Mark Williams, cyn-fyfyriwr nodedig, yn agor Wythnos y Prifysgolion. Mae cyn-fyfyrwyr bob amser wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad y Brifysgol, ac fe ddaw hyn yn fwyfwy pwysig wrth inni fynd ati i feithrin cysylltiadau â’n cyn-fyfyrwyr mewn meysydd megis datblygu sgiliau i’r gweithle, mentora, cymorth i fyfyrwyr, mentrau ar y cyd, partneriaethau ymchwil a chymorth ariannol.”

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Wythnos y Prifysgolion drwy dynnu sylw at yr ystod amrywiol o waith a wneir yn y Brifysgol, gan wahodd aelodau o’r cyhoedd i ddysgu mwy am ei gweithgareddau.

Wythnos y Prifysgolion
Mae Wythnos y Prifysgolion yn rhedeg o’r 14-20 ag yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r holl weithgareddau prifysgolion y DG.

Mae dros 100 o brifysgolion a sefydliadau cysylltiol yn rhan o’r wythnos.  Mae gweithgareddau ar draws y wlad yn cynnwys diwrnodau agored a sesiynau dadl i’r cyhoedd.  Mae rhestr lawn o’r gweithgareddau i’w cael yn www.universitiesweek.org.uk

Gall cefnogwyr ddysgu mwy am yr ymgyrch drwy ymuno â thudalen Facebook Wythnos y Prifysgolion yn www.facebook.com/ukuniversities