O erddi’r Plas i helpu’r byd

Dr Athole Marshall sydd wedi bod yn gweithio ar fathau newydd o geirch.

Dr Athole Marshall sydd wedi bod yn gweithio ar fathau newydd o geirch.

16 Mehefin 2010

O erddi’r Plas i helpu’r byd

Y gwaith ymchwil rhyfeddol sy’n digwydd yng nghefn gwlad Ceredigion

Mae gan ffermwyr Cymru, teuluoedd yn India a Ghana, a phawb sy’n hoffi cig ffres le i ddiolch am waith sy’n digwydd ar dir plasty mawreddog yng nghefn gwlad Ceredigion.

Yn adeiladau IBERS Prifysgol Aberystwyth ym Mhlas Gogerddan, mae tîm o wyddonwyr ac ymchwilwyr – y mwya’ o’i fath yng ngwledydd Prydain – yn gwneud ymchwil arloesol a fydd yn gweddnewid bywydau miliynau ar filiynau o bobl.

Dyma un o’r ‘syniadau mawr’ y mae Prifysgol Aberystwyth yn ei gyfrannu at wythnos arbennig i ddathlu gwaith prifysgolion trwy wledydd Prydain.

Am y tro cynta’ maen nhw i gyd yn cydweithio i ddangos sut y mae prifysgolion wrth galon economi a chymdeithas y Deyrnas Unedig a sut y mae syniadau da sy’n dod o brifysgolion yn hybu twf, ffyniant a datblygiad economaidd.

Gydag arbenigedd sy’n mynd yn ôl fwy na 90 mlynedd, mae canolfan IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – yn datblygu mathau newydd o blanhigion i fynd i’r afael â rhai o broblemau dwysa’r byd.

Maen nhw’n defnyddio’r chwyldro yn ein gwybodaeth am fywydeg er mwyn creu cnydau sy’n rhoi mwy o sicrwydd bwyd, dŵr ac ynni ac yn gwella iechyd a lles pobl ac anifeiliaid ar draws y byd.

Porfeydd pêr
Ers blynyddoedd, mae’r gwyddonwyr yn Aber wedi deall bod planhigion gwell yn golygu anifeiliaid a chig gwell. Felly maen nhw’n datblygu mathau o borfa sy’n rhoi mwy o nodd, yn cynnwys mwy o siwgr ac yn haws ei dreulio.

Y canlyniad? Cig gwell gyda llai o fraster a chnydau sy’n cael eu treulio’n well gan greu llai o wastraff a llygredd.

Perlau o’r pridd
Miled perlog yw un o fwydydd sylfaenol mwya’ gwerthfawr rhannau sych iawn o India ac Affrica. Ond mae’n cael ei effeithio gan sychder mawr ac afiechyd o’r enw llwydni downy. Trwy adnabod y genynnau yn y planhigion sy’n gallu gwrthsefyll sychder ac afiechyd, mae gwyddonwyr yn IBERS yn croesfridio i greu mathau mwy gwydn a thoreithiog.

Y canlyniad? Cnydau sy’n gallu gwrthsefyll rhai o effeithiau newid hinsawdd ac sy’n gallu trawsnewid bywydau ffermwyr a theuluoedd tlawd yn rhai o ardaloedd anodda’r byd.

Cig a chloroffyl
Un o’r peryglon mawr i’r diwydiant cig yw gwenwyn bwyd sy’n gallu creu argyfyngau iechyd cyhoeddus. Un o’r achosion posib yw olion mân mân o faw anifeiliaid yn heintio cig.  Dyfais gwyddonwyr IBERS yw rhoi marciwr wedi ei wneud o gloroffyl ym mwyd yr anifeiliaid sydd yn ei gwneud yn bosibl i weld a yw’r cig wedi ei heintio drwy ei sganio.

Y canlyniad? Mwy o sicrwydd i’r cyhoedd, llai o beryg o afiechydon a chostau mawr annisgwyl i’r diwydiannau ffermio a thrin cig.

Y ceirch gorau
Mathau o geirch gaeaf o IBERS sy’n arwain y farchnad trwy wledydd Prydain. Ers blynyddoedd, maen nhw’n datblygu mathau newydd a gwell, sy’n ennill gwobrau ac yn cael eu cynnwys ar restrau cymeradwy. Maen nhw’n fwy cynhyrchiol, yn fwy gwydn, yn haws eu tyfu ac yn gofyn am lai o wrtaith cemegol.

Y canlyniad? Cnydau mwy cynhyrchiol a mwy o elw i ffermwyr a llawer llai o effaith ar yr amgylchedd.

“Dim ond rhai o’r llu prosiectau sy’n digwydd yn IBERS yw’r rhain,” meddai Is- Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Noel Lloyd. “Holl bwrpas y gwaith yw gwella cyflwr ffermio, yr amgylchedd a chymdeithas.

“Mae’r rhain i gyd yn enghreifftiau perffaith o sut i droi arbenigedd o safon ryngwladol a gwaith ymchwil manwl iawn, yn atebion ymarferol i rai o’r sialensiau mawr sy’n wynebu’r blaned.

“Mae’r cyfan yn digwydd yma yn Aberystwyth a, thrwy fod yn rhan o’r Brifysgol, mae arbenigedd a phrofiad IBERS yn cael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.”