Cystadleuaeth i Ennill ‘Blwyddyn mewn Uned’

‘Dreigiau’ Aber (o’r chwith i’r dde): Mr Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Dr Kate Woodward, Hyrwyddwr Academaidd Mentergarwch, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Mr Ric Lloyd, Cleftec a Mr Tony Orme, Rheolwr Deillio Masnachol, GMY

‘Dreigiau’ Aber (o’r chwith i’r dde): Mr Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth; Dr Kate Woodward, Hyrwyddwr Academaidd Mentergarwch, Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; Mr Ric Lloyd, Cleftec a Mr Tony Orme, Rheolwr Deillio Masnachol, GMY

17 Mehefin 2010

Hoffech chi gael cyfle i gychwyn menter newydd yn un o Unedau Creadigol gwobrwyedig Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, heb orfod rhent am y flwyddyn o Awst 2010?

Gan adeiladu ar lwyddiant cystadleuaeth y llynedd, mae Prifysgol Aberystwyth yn falch o gyhoeddi lansiad Cystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned’ 2010.

“Mae’r gystadleuaeth ar agor i fyfyrwyr, staff a graddedigion Aberystwyth sydd â syniad am fusnes neu fenter gymunedol ar seilir ar unrhyw Ddiwydiant Creadigol, gan gynnwys ffilm, teledu, y cyfryngau newydd, y celfyddydau perfformio, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol a llenyddiaeth”, esboniodd Tony Orme, Rheolwr Deillio Masnachol Prifysgol Aberystwyth.

Bydd y ceisiadau yn cael eu pwyso a’u mesur gan banel ac wedyn fe fydd y rhai sy’n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyflwyno eu syniad am fusnes mewn fforwm yn null rhaglen y ‘Dragon’s Den’. Bydd yr enillydd yn cael manteisio ar wobr ‘Blwyddyn mewn Uned Greadigol’ yn y datblygiad gwobrwyedig yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Wrth siarad am ei lwyddiant yntau yng nghystadleuaeth y llynedd, dywedodd Ric Lloyd o Cleftec, “Dim ond drwy ennill cystadleuaeth ‘Blwyddyn mewn Uned’ 2009 roedd modd lansio Cleftec eleni. Ar wahân i’r manteision amlwg a ddaeth o ennill y gystadleuaeth o ran cyhoeddusrwydd, mae’r Uned Greadigol fendigedig wedi’n galluogi i sefydlu sylfaen uwch-dechnolegol a meithrin enw da i ni’n hunain drwy ddarparu ansawdd ac effeithlonrwydd i’n cleientiaid”.

Dywedodd Alan Hewson, Cyfarwyddwr Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, “Mae’n wych cael bod yn rhan o ‘Flwyddyn mewn Uned' eto, yn enwedig ar ôl llwyddiant busnes cerddoriaeth Ric Lloyd, Cleftec, ym mlwyddyn gyntaf y cynllun.

Mae ‘Blwyddyn mewn Uned’ yn cynnig cyfle cyffrous i gwmnïau newydd weithio â’r busnesau celfyddydol a’r artistiaid preswyl eraill sydd yn ein Hunedau Creadigol gwobrwyedig, ac i fod yn rhan o’r gymuned greadigol sy’n tyfu yng Nghanolfan y Celfyddydau.”

Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chydlynu gan Wasanaethau Masnacheiddio ac Ymgynghori (GMY) Prifysgol Aberystwyth, gan weithio ar y cyd â Chanolfan Celfyddydau Aberystwyth. 

“Mae’r gystadleuaeth yn rhan o’r pecyn ehangach o gymorth i Fentrau a gynigir drwy’r GMY i fyfyrwyr, staff a graddedigion sydd am gychwyn busnesau newydd yn lleol, yn enwedig os yw’r busnesau hynny’n gysylltiedig â meysydd gwybodaeth ac arbenigedd y Brifysgol” ychwanegodd Tony Orme.

Am fanylion llawn y gystadleuaeth a’r meini prawf ar gyfer pwy sy’n cael cystadlu, cysylltwch â Tony Orme, Rheolwr Deillio Masnachol, Prifysgol Aberystwyth awo@aber.ac.uk / 01970 622203.  Dydd Llun 5 Gorffennaf 2010 yw’r dyddiad cau am geisiadau.