Wythnos ymwybyddiaeth peryglon cwympo

Yn y llun (chwith i'r dde) Samantha Winter, Sian Williams (sydd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth), Annmarie Butlin (Cyd-Gyfarwyddwr Age Concern Ceredigion), David Langford (Swyddog Ymarfer Proffesiynol Cofrestredig yn Ward Dydd Leri), a Fiona Higgs (myfyriwr doethuriaeth sydd yn gwneud yr ymchwil).

Yn y llun (chwith i'r dde) Samantha Winter, Sian Williams (sydd yn cymryd rhan yn yr astudiaeth), Annmarie Butlin (Cyd-Gyfarwyddwr Age Concern Ceredigion), David Langford (Swyddog Ymarfer Proffesiynol Cofrestredig yn Ward Dydd Leri), a Fiona Higgs (myfyriwr doethuriaeth sydd yn gwneud yr ymchwil).

24 Mehefin 2010

Mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Peryglon Cwympo (21- 25ain Mehefin) yn nodi dechrau prosiect ymchwil rhwng Ysbyty Cyffredinol Bronglais, Age Concern Ceredigion ac Adran Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth.

Bydd yr ymchwil, sydd wedi ei gyllido gan Bwyllgor Cronfeydd Elusennol Hywel Dda ac Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth y Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, yn cynorthwyo ymgynghorwyr yn Ysbyty Bronglais i adnabod oedolion hŷn sydd yn fwy tebygol o gwympo. Yna byddant yn monitro newidiadau mewn iechyd a safon bywyd yn ystod, ac yn dilyn, rhaglen hyfforddi i gryfhau a gwella cydbwysedd.

Bydd ymchwilwyr yn y Brifysgol yn mesur newidiadau mewn màs y cyhyrau, cydbwysedd, cryfder a safon bywyd seicolegol wrth i oedolion hŷn fynd trwy’r rhaglenni ymarfer sydd yn cael eu darparu gan Age Concern Ceredigion a ward Dydd Leri yn Ysbyty Bronglais. Y gobaith yw y bydd canlyniadau’r ymchwil yn gymorth i gynllunio darpariaeth rhaglenni o’r fath mewn ardaloedd lleol yn y dyfodol.

Dywedodd Dr Samantha Winter, sydd yn arwain yr ymchwil, “Mae’r Adran Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn falch o fod yn rhan o’r ymchwil hwn gan fod tystiolaeth dda yn dangos fod rhaglenni ymarfer tebyg i’r un y mae Age Concern Ceredigion yn eu darparu yn gymorth i osgoi cwympiadau.

Mae canlyniadau cwymp i bobl hŷn yn gallu bod yn ddifrifol iawn. Gall cwymp fach effeithio ar hyder pobl a chyfyngu ar eu gweithgaredd. Ein gobaith yw y bydd ein hymchwil yn cynorthwyo pobl hŷn i fod yn annibynnol yn hirach a sicrhau eu bod yn parhau yn rhan o’r gymuned y maent wedi cynorthwyo i’w chreu.”

Mae ward Dydd Leri yn cynnal Clinic Cwympiadau wythnosol gyda Dr Hugh Chadderton ac yn cynnig gwasanaeth asesu cwympiadau sydd wedi ei ddatblygu yn ofalus i oedolion hŷn yn Aberystwyth ar ardal o amgylch.

Un o’r argymhellion gan y gwasanaeth yw rhaglen ymarfer o dan oruchwyliaeth er mwyn gwella cryfder, hyblygrwydd a rheolaeth cydbwysedd yn ogystal â magu hyder â’r gallu i gyflawni tasgau bob dydd megis cerdded, coginio a chael bath neu gawod.

Mae mwyafrif y cleifion yn cael eu cyfeirio at ddosbarthiadau cymunedol o rhwng 10 a 15 person yn syth. Yn ogystal mae rhaglen ymateb gyflym wedi cael ei datblygu ar gyfer cleifion sydd angen sylw brys. Cynhelir hon yn yr ysbyty mewn grwpiau llai, 4 i 8 person, ac mae gofyn cofrestri arni o fewn wythnos i fynychu’r clinig.

Dyluniwyd y rhaglen hon er mwyn cryfhau a gwella cydbwysedd yn ddigonol er mwyn galluogi pobl i fynychu dosbarthiadau cymunedol yn ddiogel. Bydd y gwaith ymchwil yn asesu canlyniadau’r dosbarthiadau yn y gymuned ac yn yr ysbyty.  Y disgwyl yw y bydd y dosbarthiadau yma yn lleihau’r nifer o gwympiadau yn y gymuned â lleihau’r gost i’r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol o’u trin.