Prifysgol Aberystwyth yn dathlu ei graddedigion cyntaf

Graddio

Graddio

13 Gorffennaf 2010

Mae Seremonïau Graddio 2010, sydd yn dechrau heddiw - Dydd Mawrth 13 Gorffennaf 2010, yn garreg filltir bwysig i Brifysgol Aberystwyth wrth i’r garfan gyntaf o fyfyrwyr dderbyn graddau Prifysgol Aberystwyth.

Yn 2007 dyfarnwyd Siarter ac Ystatudau newydd i Brifysgol Aberystwyth gan y Cyfrin Gyngor. Mae'r rhain yn cynnwys yr hawl i ddyfarnu graddau Prifysgol Aberystwyth.

Dair blynedd yn ddiweddarach ac mi fydd graddedigion Aberystwyth yn gwisgo gŵn newydd Prifysgol Aberystwyth.

Mae’r gŵn yn adlewyrchu lliwiau’r Brifysgol, gyda’r gŵn Baglor, a fydd yn cael ei wisgo gan raddedigion BA a BSc, yn cynnwys llewys wedi eu haddurno â chordyn sidan deuliw gwyrdd a choch, a botwm sidan coch, a chwfwl du wedi ei leinio mewn gwyrdd â border coch.

Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd yn graddio o Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon. Rwyf wrth fy modd fod graddau Prifysgol Aberystwyth yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf. Mae’r Brifysgol wedi profi llwyddiannau o bwys yn ystod y blynyddoedd diweddar ac ma hyn yn arwydd pellach o’i hyder yn y dyfodol.”

Mae tua 1,750 o fyfyrwyr yn graddio o Brifysgol Aberystwyth eleni. Cynhelir y seremonïau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o Ddydd Mawrth 13 tan Ddydd Gwener 16 Gorffennaf. 

Trefn Seremoniau Graddio 2010:

Dydd Mawrth 13 Gorffennaf 2010
Seremoni 1: 11am
Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Hanes a Hanes Cymru
Seremoni 2: 3pm
Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu

Dydd Mercher 14 Gorffennaf 2010
Seremoni 3: 11am
Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Astudiaethau Gwybodaeth,   Seicoleg
Seremoni 4: 3pm
Ysgol Rheolaeth a Busnes, Ieithoedd Ewropeaidd, Y Gymraeg

Dydd Iau 15 Gorffennaf 2010
Seremoni 5: 11am
Cyfrifiadureg , Yr Ysgol Gelf, Addysg
Seremoni 6: 3pm
Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Dydd Gwener 16 Gorffennaf 2010
Seremoni 7: 11am
Y Gyfraith a Throseddeg
Seremoni 8: 3pm
Sefydliad Daearyddiaeth ac Astudiaethau Daear, Sefydliad Mathemateg a Gwyddorau Ffisegol

au11210