Prifysgol Aberystwyth yn urddo saith Cymrawd

Scrol

Scrol

13 Gorffennaf 2010

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn urddo saith Cymrawd yn ystod Seremonïau Graddio 2010 sydd yn cael eu cynnal yr wythnos hon, o Ddydd Mawrth 13 tan Ddydd Gwener 16 Gorffennaf.

Dyfernir teitl Cymrawd i anrhydeddu unigolion nodedig sydd â chysylltiad agos â Phrifysgol Aberystwyth neu sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd proffesiynol neu fywyd cyhoeddus Cymru.

Cymrodyr 2010 (yn y drefn yn byddant yn cael eu cyflwyno):

Yr Athro Emeritws Ieuan Gwynedd Jones MA, D.Litt, FRHistS, hanesydd enwog a chyn Athro Syr John Williams mewn Hanes.
Bydd yr Athro Jones yn cael ei gyflwyno am 11.00 o’r gloch fore Mawrth 13 Gorffennaf gan y Dirprwy Is-Ganghellor, yr Athro Aled Jones.

Mr Richard Morgan BA (Cymru), cyn-fyfyriwr a Thrysorydd y Brifysgol.
Bydd Mr Morgan yn cael ei gyflwyno am 3.00 o’r gloch brynhawn Mercher 14 Gorffennaf gan y Dirprwy Is-Ganghellor, Dr John Harries. 

Mr Cynog Dafis, BA (Cymru), PGCE, MEd, cyn-fyfyriwr, cyn AS ac AC dros Geredigion.
Bydd Mr Dafis yn cael ei gyflwyno am 11.00 o’r gloch fore Iau 15 Gorffennaf gan yr Athro Roger Scully o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.

Ms Rachel Lomax, MA (Cantab), MSc (Econ), Cyn Ysgrifennydd Parhaol, Y Swyddfa Gymreig a chyn Ddirprwy Lywodraethwr Banc Lloegr.

Bydd Ms Lomax yn cael ei chyflwyno am 3.00 o’r gloch brynhawn Iau 15 Gorffennaf gan Is-Lywydd Prifysgol Aberystwyth, Mr Winston Roddick.

Yr Athro Steve Smith, cyn-Bennaeth yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Is-Ganghellor Prifysgol Exeter a Llywydd UUK.
Bydd yr Athro Smith yn cael ei gyflwyno am 3.00 o’r gloch brynhawn Iau 15 Gorffennaf gan Mr Richard Morgan, Trysorydd Prifysgol Aberystwyth.

Yr Arglwydd Judge, Arglwydd Farnwr Ustus Lloegr a Chymru
Bydd Yr Arglwydd Judge yn cael ei gyflwyno am 11.00 o’r gloch fore Gwener 16 Gorffennaf gan Lywydd y Brifysgol, Syr Emyr Jones Parry.

Yr Athro Terry Lyons, FRS, FRSE, Athro Mathemateg Wallis, Prifysgol Rhydychen; Cyfarwyddwr  Sefydliad Gwyddorau Cyfrifiadurol a Mathemategol Cymru
Bydd yr Athro Lyons yn cael ei gyflwyno am 3.00 o’r gloch brynhawn Gwener 16 Gorffennaf gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.

Cynhelir y seremonïau graddio yn y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

au13110