Cyn-fyfyrwraig ar sofa The One Show

Alex Jones / Credit BBC

Alex Jones / Credit BBC

27 Gorffennaf 2010

Mae Alex Jones, un o raddedigion yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu, wedi sicrhau un o swyddi mwyaf deniadol y byd teledu fel cyflwynwraig newydd y sioe boblogaidd The One Show.
 
Mae Alex yn wyneb cyfarwydd ar deledu Cymraeg ble bu’n cyflwyno nifer o raglenni gan gynnwys y sioe deithio ffasiynol Tocyn, y rhaglen chwaraeon eithafol Chwa, a’r rhaglen steil a ffasiwn Salon. 

Bu hefyd yn cyflwyno ar y cyd â’r seren rygbi Jonathan Davies yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ag yn gyflwynwraig reolaidd ar Real Radio GMG yng Nghymru.  Bydd Alex yn ymuno â’r digrifwr a’r cyflwynydd Jason Manford ar soffa The One Show o’r 16eg o Awst.

Mae Dr Anwen Jones, darlithydd yn Adran Theatr, Ffilm a Theledu, yn cofio Alex fel myfyrwraig yn yr Adran. Dywedodd: “Mae Alex wedi canolbwyntio ac wedi bod yn hynod ymroddgar wrth sefydlu ei gyrfa fel cyflwynwraig teledu. Yn gynnar iawn yn ei gyrfa fel myfyrwraig israddedig roedd yn hollol glir am ei dyheadau a’i hamcanion.” 

“Rwy’n cofio Alex fel unigolyn brwdfrydig gyda meddylfryd anarferol o aeddfed a ysgogodd hi i ymrwymo i bob agwedd o’i hastudiaethau drama. Fe sylweddolodd yn fuan iawn bod angen i gyflwynwraig teledu effeithiol a llwyddiannus wybod am, a phrofi, pob agwedd o’r diwydiant o bob persbectif.”

Dywedodd Alex: “Dwi wrth fy modd yn cael ymuno gyda The One Show.  Rwy’n gwylio’r rhaglen bob nos ar fy soffa adre ac yn methu credu y byddaf yn cael ei chyfnewid am soffa The One Show! Dwi wedi breuddwydio am gael cyfle fel yma ac yn methu credu fy mod yn mynd i weithio gyda Jason Manford - dwi'n meddwl ei fod yn wych."
 
Dywedodd Liam Keelan, Rheolwr Teledu Dydd yn y BBC: “Rwyf wrth fy modd o gael croesawu Alex i dîm The One Show. Roedd ei phrawf sgrin gyda Jason yn ardderchog ag o’r eiliad honno roeddwn yn gwybod taw hi oedd yr un.  Rydym yn hynod falch o gael Alex yn gweithio â ni ag yn edrych ymlaen at ei chyflwyno i gynulleidfa The One Show.”

Mae The One Show yn rhaglen hynod boblogaidd sy’n denu dros bum miliwn o wylwyr yn rheolaidd.  Bydd Alex yn cyflwyno’r sioe gyda Jason bob wythnos o nos Lun i nos Iau.

AU14910