Y Brifysgol yn yr Eisteddfod

Stondin y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod

Stondin y Brifysgol ar faes yr Eisteddfod

30 Gorffennaf 2010

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig rhaglen lawn o weithgareddau ar ei stondin ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd 2010.

Dydd Llun 2il o Awst
11am
Dr Hywel Griffiths: Daearyddiaeth farddonol a barddoniaeth ddaearyddol
Yn y sesiwn sy’n agor rhaglen y Brifysgol o weithgareddau, bydd y Prifardd Hywel Griffiths, sy’n ddarlithydd yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn darllen ac yn trafod rhai o’i gerddi sydd wedi eu hysbrydoli gan ddaearyddiaeth a thirwedd Cymru.

3.30pm
Her Prifysgol Aberystwyth
Profwch eich gwybodaeth gyffredinol! Yn yr Eisteddfod ar y prynhawn Llun bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal cystadleuaeth Her Prifysgol. Yn wynebu ei gilydd bydd dau dîm, yn cynrychioli’r myfyrwyr ac aelodau staff y Brifysgol.  Yn cadw trefn ar y cyfan bydd yr hanesydd, awdur a’r darlledwr Dr Russell Davies. 

Dydd Mawrth 3ydd o Awst
11am
Cyfathrebu yn oes y cyfryngau digidol a chymdeithasol
Dewch draw i wrando ar banel o gyfathrebwyr yn trafod dylanwad y dechnoleg newydd ar ein bywydau bob dydd. Aelodau’r panel fydd Elin Haf Gruffydd Jones, Cyfarwyddwraig Canolfan Mercator, Owain Schiavone, Prif weithredwr Golwg 360, Gareth Morlais, BBC Cymru/Wales Ar-lein a Guto Harri, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Maer Llundain. Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan yr Athro Aled Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac awdurdod ar hanes y cyfryngau ym Mhrydain.

2.30pm
Cof a’r Cyfryngau yng Nghymru, 1950-2000.
Bydd Dr. Iwan Rhys Morus o Adran Hanes a Hanes Cymru yn arwain cyflwyniad i lansio’r prosiect ymchwil newydd a chyffrous yma ac yn galw am gymorth y cyhoedd i helpu deall dylanwad y teledu ar ddiwylliant a bywyd bob dydd Cymru.

Dydd Mercher 4ydd o Awst
9am – Hanner dydd
Pwy yw TH?
Dyma arbrawf ymchwil newydd gan T. Robin Chapman o Adran y Gymraeg a Dafydd Sills-Jones o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Rydym yn ceisio canfod arwyddocâd cerddi T. H. Parry-Williams i’r Gymru gyfoes, ac mae angen eich help chi arnom ni.
Gallwch gymryd rhan yn hawdd iawn drwy ddilyn y camau canlynol: 

1. Dewiswch eich hoff gerdd gan T. H. Parry-Williams (mi fydd casgliad o’i gerddi wrth law)
2. Meddyliwch yn ddwys ynglŷn â’ch dewis, ac ynglŷn ag arwyddocâd y gerdd i chi. (e.e., pam y gwnaethoch chi ddewis y gerdd hon, ac nid un arall?)
3. Darllenwch eich cerdd i’r camera. Does dim angen i chi fod yn Ioan Gruffudd nac yn Nia Roberts; ein diddordeb yw eich perfformiad a’ch dehongliad personol chi.
4. Atebwch ychydig o gwestiynau i’r camera, ynglŷn ag arwyddocâd eich dewis gerdd.

2-4pm
Derbyniad i Alumni a Chyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth
Caiff y derbyniad hwn ei gynnal ar y cyd rhwng Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr a’r Brifysgol. Dyma gyfle gwych i unrhyw un sydd wedi astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth ar unrhyw gyfnod i ddod i gwrdd â’i gilydd ar faes yr Eisteddfod.

Y siaradwr gwadd eleni fydd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol newydd Dwyrain Caerfyrddin A Dinefwr a raddiodd mewn Hanes a Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd Meistr mewn Hanes Rhyngwladol. Bydd Jonathan yn cael ei gyflwyno gan Eurwen Richards, Is-Lywydd Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr. Darperir lluniaeth ysgafn a chewch gyfle i hel atgofion gyda hen ffrindiau.  Croeso i bawb!

Dydd Iau 5ed o Awst
11am
Seremoni Wobrwyo
Seremoni wobrwyo enillydd Her Gyfieithu Tŷ Cyfieithu Cymru - Oxfam Cymru 2010 yng nghwmni'r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC.

1pm
Cwis Arbennig UMCA
Dewch i gymryd rhan yng Nghwis UMCA, dan arweiniad y Llywydd, Rhiannon Wade. Mae croeso mawr i unrhyw un gymryd rhan, a bydd gwobrau ar gael i’r enillwyr.

2 - 5pm
Pwy yw TH?
Cyfle arall i gymryd rhan yn yr arbrawf arloesol hwn dan arweiniad Dafydd Sills-Jones o’r Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu, a T. Robin Chapman o Adran Gymraeg y Brifysgol.

Dydd Gwener 6ed o Awst
10.45am
Cyhoeddi Enillydd y Beic
Os ydych wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth i ennill y beic dewch heibio’r stondin heddiw i weld os mai chi sydd wedi bod yn lwcus!

11am – 1pm
Daeargryn Nesaf Gwleidyddiaeth Cymru?
Mae’n gyfnod hynod gyffrous yng ngwleidyddiaeth Cymru. Ychydig fisoedd yn unig sydd ers Etholiad Cyffredinol 2010, lle gwelwyd Llafur yn ennill y gyfran leiaf  o’r pleidleisiau ers 1918, llai na’r Alban am y tro cyntaf erioed, ac eto’n llwyddo i ddominyddu map gwleidyddol Cymru yn San Steffan. Hefyd, mae etholiadau nesaf y Cynulliad ar y ffordd, a dau refferendwm ar y gorwel. Ydy hyn yn ddigon i ysgwyd seiliau gwleidyddol Cymru i’w gwraidd a newid y sefyllfa wleidyddol mewn modd na welwyd ei debyg o’r blaen?

Yn ystod y cyfarfod hwn byddwn yn trafod oblygiadau’r holl newidiadau hyn yng nghwmni rhai o sylwebwyr praffaf gwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd - Vaughan Roderick (Golygydd Materion Cymreig y BBC), Daran Hill (Cyfarwyddwr Positif Politics), ac Arwyn Jones (Gohebydd Seneddol BBC Cymru). Bydd Dr Elin Royles o Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru yn Cadeirio a bydd lluniaeth ysgafn i ddilyn. Croeso cynnes i bawb.

2 – 4pm
Aduniad Ganol Haf
Os ydych yn fyfyriwr presennol ym Mhrifysgol Aberystwyth yna dewch draw i’r stondin am Aduniad Ganol Haf gyda’ch ffrindiau! Bydd y band ‘Candelas’ yn adlonni, yn ogystal â chlocswyr a chantorion UMCA. Bydd cyfle hefyd i ddarpar-fyfyrwyr ddod i gwrdd myfyrwyr a staff presennol a gofyn cwestiynau am fywyd prifysgol. Byddwn hefyd yn cyhoeddi enwau enillwyr Bwrsariaethau Cyfrwng Cymraeg Mathemateg a Ffiseg y Brifysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Darperir lluniaeth ysgafn hefyd, felly dewch yn llu!

4pm
Ffug Achos Llys
Mewn clwb nos yn Aberystwyth, anafwyd merch. Dwynwyd Heulwen Rhiannon Williams gerbron y llys fel diffynnydd. A fydd y llys yn caniatáu mechnïaeth iddi? Myfyrwyr Adran y Gyfraith a Throseddeg fydd yn erlyn ac amddiffyn yr achos. 

Cymdeithas y Cyn-fyfyrwyr
Bydd gan Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr y Brifysgol gynrychiolaeth ar y stondin hefyd a bydd cyfle i chi ymuno â’r gymdeithas os nad ydych yn aelod ohoni yn barod. Dyma gyfle gwych i hel atgofion a chyfarfod hen ffrindiau. Eleni cynhelir aduniad ar gyfer cyn-fyfyrwyr y Brifysgol am 2pm ddydd Mercher y 4ydd o Awst ar y stondin. Croeso i bawb! 

Cyfle i ennill beic mynydd
I nodi cynnwys Prifysgol Aberystwyth ar restr canolfannau ymarfer swyddogol i feicio mynydd ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain yn 2012 rydym yn cynnal cystadleuaeth â beic mynydd Trek 3700 yn wobr. Y cyfan fydd angen i chi ei wneud fydd ymweld â stondin Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod ac ateb cwestiwn syml. Bydd enw’r enillydd yn cael ei gyhoeddi ar y stondin am 10.45 fore dydd Gwener y 6ed o Awst.

AU14610