Aduniad y Cyn-fyfyrwyr ar Faes yr Eisteddfod

Y gwr gwadd yn 2008 oedd y cyn-fyfyriwr sydd bellach yn Brifweinidog Cymru, Carwyn Jones

Y gwr gwadd yn 2008 oedd y cyn-fyfyriwr sydd bellach yn Brifweinidog Cymru, Carwyn Jones

30 Gorffennaf 2010

Yn dilyn llwyddiant ysgubol aduniad cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala yn 2009, mi fydd y Brifysgol yn cynnal digwyddiad tebyg ar faes yr Eisteddfod ym Mlaenau Gwent a Blaenau’r Cymoedd am 2yp ar ddydd Mercher 4ydd Awst.

Mae’r derbyniad, a drefnir ar y cyd gan Brifysgol Aberystwyth a Chymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr, yn cynnig cyfle i alumni Aberystwyth gwrdd â hen ffrindiau a chlywed am ddatblygiadau newydd yn Aberystwyth.

Y siaradwr gwadd yn y derbyniad eleni yw’r cyn-fyfyriwr Jonathan Edwards a etholwyd yn Aelod Seneddol yn ddiweddar.  Mr Edwards yw AS Plaid Cymru ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ac mae’n un o’r deuddeg cyn-fyfyriwr a gafodd eu hethol i San Steffan yn yr etholiad cyffredinol eleni.

Graddiodd Mr Edwards mewn Hanes a Gwleidyddiaeth (1997) cyn mynd ymlaen i gwblhau gradd MSc mewn Hanes Rhyngwladol. Yn dilyn ei astudiaethau academaidd bu’n gweithio am saith mlynedd fel Pennaeth Staff i Rhodri Glyn Thomas AC ac Adam Price AS.

Mae’n gyn Gynghorydd yng Nghaerfyrddin ble gwasanaethodd fel Siryf y dref.  Yn 2005 rhoddwyd cyfrifoldeb am faterion strategol iddo o fewn Cyfarwyddiaeth Ymgyrchu Cenedlaethol newydd Plaid Cymru.

Ar ôl etholiadau’r Cynulliad yn 2007, symudodd Jonathan i weithio i Gyngor ar Bopeth Cymru lle bu’n arwain ar Faterion Cyhoeddus, Cysylltiadau Cyhoeddus a Pholisi.

Ei brif ddiddordebau gwleidyddol yw Cyfiawnder Cymdeithasol a Materion Tramor ac mae ei ddiddordebau eraill yn cynnwys chwarae criced i Glwb Penygroes a chefnogi Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe.

Dywedodd Mr Edwards: “Rwy’n hynod falch o gael annerch cyn-fyfyrwyr yn yr Eisteddfod ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael cwrdd â hen ffrindiau yn y derbyniad.  Mae gen i atgofion melys iawn o’m cyfnod fel myfyriwr yn Aber ac rwy’n siŵr bod fy addysg Brifysgol wedi darparu sylfaen cadarn i ddatblygiad fy ngyrfa wleidyddol.”

Caiff Mr Edwards ei gyflwyno gan Is-Lywydd Cymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr, Miss Eurwen Richards, cyn-fyfyrwraig o Adran Amaeth Prifysgol Aberystwyth.  Bydd cyfle i fynychwyr y derbyniad gyfle i ymuno â Chymdeithas y Cyn-Fyfyrwyr.  Cafodd y Gymdeithas ei sefydlu ym 1892 ac mae ganddi dros 8,000 o aelodau ar draws y byd - i gyd yn rhannu eu hoffter am Brifysgol Aberystwyth.

Estynnir croeso cynnes i fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr y Brifysgol i’r derbyniad.

AU14110