Seren yr ‘Apprentice’ i siarad mewn cynhadledd i rwydwaith busnesau bychain

Kimberley Davis

Kimberley Davis

15 Medi 2010

Bydd Kimberley Davis, un o’r sêr o raglen deledu’r ‘Apprentice’ yn siarad mewn cynhadledd a gynhelir gan rwydwaith o fusnesau bychain yn Aberystwyth.

Bydd y digwyddiad, a fydd yn dechrau am 5.30 y prynhawn ar 16 Medi yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, yn cael ei gynnal gan Rwydweithiau Dysgu Cynaliadwy Iwerddon a Chymru ar y cyd â’r Ysgol Rheolaeth a Busnes, ac fe fydd hefyd yn cynnwys astudiaeth achos gan David Lea-Wilson ar Halen Môn.

Ganed Kimberley yn ardal y Bronx yn Efrog Newydd, ac mae ganddi radd BA mewn rheolaeth cerddoriaeth ac mae hi hefyd yn gerddor dawnus. Mae wedi perfformio gwaith gan Mozart yn Neuadd Carnegie, ac yn canu’r feiolin gyda Cherddorfa Siambr Swydd Essex. Daeth ochr fentergarol Kimberley i’r amlwg pan oedd hi’n 5 oed pan ddechreuodd ei stondin hufen iâ lemonêd ei hun.

Kimberley oedd y pumed unigolyn i gael ei daflu allan yng nghyfres 5 yr ‘Apprentice’ ar ôl yr ymgyrch ‘pants man’ i hysbysebu grawnfwyd brecwast. Aeth hi â Philip Taylor a Lorraine Tighe gyda hi yn ôl i’r ystafell fwrdd.

Dywedodd Syr Alan Sugar y byddai hi’n ddoniol pe bai hi’n rhaglen gomedi, ond ei bod hi’n beth gwirion i’w ddefnyddio i werthu cynnyrch. Bu’r tîm yn dadlau’n hir ynghylch dyluniad y bocs, gan adael i’r tîm dylunio benderfynu ar syniad i’r dyluniad yn y diwedd. 

Heb ddyluniad ar y blwch, bu’n rhaid i dîm Ignite ddibynnu ar wisgo eu trôns dros eu dillad a chreu jingl. Penderfynodd Syr Alan Sugar daflu Kimberley allan oherwydd iddo deimlo, a hithau â’i chefndir mewn marchnata, mai ‘chwarae bach’ y dylai’r dasg fod wedi bod iddi hi, ‘ti oedd yr un fwyaf cymwys’.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 16 Medi, bydd Kimberley yn feirniad ar gystadleuaeth debyg i’r ‘Apprentice’ rhwng grwpiau o rwydweithiau busnesau Cymru.

Bydd pob rhwydwaith yn creu a chyflwyno ymgyrch marchnata i werthu cynnyrch newydd. Bydd Kimberley hefyd yn siarad am ddefnyddio athrawiaeth y Freuddwyd Americanaidd i gredu bod popeth yn bosib, beth bynnag fo’ch oedran, eich cefndir neu’ch statws cymdeithasol neu economaidd.

Bydd yn esbonio sut yr arweiniai’r ymagwedd honno at iddi gael cyfweld â’u hoff enwogion, gan gynnwys Andre Agassi, ac at gael ei dewis i’r Apprentice. Yn ystod y cyflwyniad, bydd Kimberley hefyd yn rhannu ei chyfrinachau ar droi’r negyddol yn gadarnhaol, ac ar wynebu ofn methu. Bydd hi hefyd yn esbonio sut i lunio’ch map i lwyddiant.

Mae prosiect SLNIW yn cael ei ariannu yn rhannol drwy’r Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd drwy raglen Iwerddon Cymru 2007 - 2012 INTERREG 4A. Sefydlwyd chwe rhwydwaith dysgu cynaliadwy yng ngorllewin Cymru ac yn Ne-ddwyrain Iwerddon fel rhan o Brosiect SLNIW.

Mae tri rhwydwaith yng Nghymru a thri yn Iwerddon, un o fenywod, un o ddynion ac un cymysg yn y naill wlad a’r llall. Mae’r rhwydweithiau yn cyfarfod unwaith y mis ac mae’r aelodau yn trefnu eu profiadau dysgu eu hunain, gyda chymorth tîm SLNIW. Mae teithiau maes yn cael eu trefnu hefyd, yn ogystal ag ymweliadau cyfnewid â’r busnesau yn Iwerddon.

Mae’r digwyddiadau yn rhad ac am ddim i aelodau’r rhwydweithiau. Trefnir taith i Gwrs Rasio Ffoslas i 20 Hydref, lle bydd Colin Owens, rheolwr y cwrs, yn siarad am heriau sefydlu cwrs rasio diweddaraf Prydain, ac fe fydd Rachel Thomas o Coast and Country Cottages hefyd yn siarad am bwysigrwydd rhwydweithio i fusnesau bychain.

Mae’r digwyddiad hwn yn dechrau am 5.30 y prynhawn ar 16 Medi yn adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth. Mae’n RHAD AC AM DDIM, ac os hoffech ddod i’r digwyddiad neu ymuno â’r rhwydweithiau, cysylltwch â Lesley Langstaff lkl@aber.ac.uk neu Anne Howells nsh@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622506.