Sesiynau rhagflas am ddim a diwrnod cofrestru 11-09-10

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

09 Medi 2010

Ddydd Sadwrn 11 Medi mae'r Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes yn cynnal diwrnod gwybodaeth a chofrestru yn yr Hen Goleg.

Mae hwn yn gyfle i sgwrsio â staff am y cyrsiau Dysgu Gydol Oes sydd ar gael y flwyddyn hon, ac os nad ydych wedi mynychu dosbarthiadau o'r blaen, mae'n gyfle hefyd i brofi sesiwn rhagflas? Dewch draw i un o'r sesiynau canlynol.

Cofleidio Creadigedd - 11y bore Sadwrn 11 Medi 2010, Hen Goleg
Cyflwyniad i Archaeoleg - 11 y bore Sadwrn 11 Medi 2010, Hen Goleg
Tsieinëeg Canol Uwch - 10.30 bore Llun 27 Medi 2010, Llandinam C63
Groeg, Canolradd Is - 6 yr hwyr Nos Fawr 5 Hydref, Llandinam B22
Groeg i Ddechreuwyr 6 yr hwyr, dydd Mercher 6 Hydref, Hugh Owen D59
Llydaweg i Ddechreuwyr, 10 y bore, ddydd Sadwrn 16 Hydref, Yr Hen Goleg

Am fanylion pellach neu law lyfr llawn e-bostiwch learning@aber.ac.uk neu ffoniwch 621850.