‘Chicago’ yn torri recordiau gwerthiant tocynnau

Chicago

Chicago

10 Medi 2010

‘Chicago’ - Y sioe haf fwyaf llwyddiannus erioed yn hanes Canolfan y Celfyddydau

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi cael ei sioe haf fwyaf llwyddiannus erioed, gyda’i chynhyrchiad proffesiynol o ‘Chicago’ yn torri recordiau gwerthiant tocynnau. Erbyn diwedd y 44 perfformiad, ‘roedd 10,176 wedi gweld y sioe.

Ers 30 mlynedd bellach mae Canolfan y Celfyddydau wedi cynhyrchu ei sioe haf ei hun, sioe gerdd adnabyddus fel arfer, achlysur sy’n rhoi pleser i’n cynulleidfa leol yn ogystal â thwristiaid. Dros y blynyddoedd mae’r cynyrchiadau wedi tyfu mewn maint a chynnwys, ac erbyn hyn maent o ansawdd sydd ymhell tu hwnt i’r uchelgais gwreiddiol. Cynhyrchiad 2010 oedd ‘Chicago - The Musical’, gydag Anthony Williams yn cyfarwyddo, a chafwyd 44 o berfformiadau dros 5 wythnos o 23 Gorffennaf tan 28 Awst. Gyda chast o un ar bymtheg o actorion a dawnswyr proffesiynol, band byw a set pwrpasol ysblennydd, bu’r cynhyrchiad uchelgeisiol hwn o ansawdd y gellid ei chymharu â sioeau blaenllaw Llundain. Mae sioe o’r math hwn yn fenter heriol i unrhyw fudiad ond yn sgil uchelgais y Ganolfan, a’i hyder yn y sioe, cafwyd canlyniadau campus gyda’r incwm o werthu tocynnau yn cyrraedd dros £170,000, bron £30,000 yn fwy na’r cynhyrchiad hynod lwyddiannus blaenorol yn 2009 sef The King & I.

Er bod llwyddiant masnachol yn hanfodol bwysig mewn cynhyrchiad o’r maint hwn, bu Chicago yn llwyddiant artistig ysgubol hefyd, gan ddenu adolygiadau gwych:

‘This is a production which has real pizzazz. With great choreography it is coruscating musical theatre.’ Y Stage

‘A jaw dropping theatrical experience. The band was terrific and the standing ovation undeniably deserved.’ Western Mail

‘A production that has real class. It's as fine a Chicago as you could ever hope to see.’ Theatre in Wales

‘As a consistent quality producing venue it stands alongside the Watermill and the Menier Chocolate Factory.’ Theatre in Wales

Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r Ganolfan wedi gweithio’n galed i ddatblygu maint a chynnwys ei chynhyrchiad haf ac yn hyn o beth bu cefnogaeth ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru trwy ei gynllun ‘Y Celfyddydau y tu allan i Gaerdydd’ o gymorth mawr i ddatblygu ansawdd y cynyrchiadau er mwyn parhau i wella profiad y gynulleidfa. Mae’r sioeau haf erbyn hyn wedi ennill enw da ledled y DU, ac fel rhan o ddatblygiad newydd, mae’r Ganolfan yn trefnu adfywiad o gynhyrchiad haf 2006 sef ‘Fiddler on the Roof’, a gyfarwyddwyd gan Michael Bogdanov, i fynd ar daith o gwmpas prif ganolfannau’r DU yn 2011.

Yn draddodiadol mae misoedd yr haf yn fwy tawel i fudiadau celf - mae’r rhan fwyaf o theatrau yn ‘tywyllu’ ar gyfer gwaith cynnal a chadw gan dorri i lawr ar eu rhaglenni a pharatoi ar gyfer y tymor hydref prysurach. Nid felly Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Ers blynyddoedd lawer bu’r Ganolfan, sy’n adran o Brifysgol Aberystwyth, yn gweld misoedd yr haf fel cyfle i ddarparu rhaglen artistig eang ac uchelgeisiol. Mae’r rhaglen hon yn ychwanegu at y ddarpariaeth ar gyfer cwsmeriaid rheolaidd ac hefyd yn ymestyn allan at gynulleidfaoedd newydd trwy drefnu gweithgareddau penodol i ddenu ymwelwyr i’r ardal ac ar gyfer y sawl sydd yma ar eu gwyliau. Mae cyfraniad y Ganolfan bellach yn elfen bwysig yn economi twristiaeth y rhanbarth. Yn ystod yr haf 2010 bu’r Ganolfan yn cynnig mewn un mis raglen na fydda’i cael ei chynnig mewn blwyddyn gyfan mewn llawer o fudiadau celf eraill.

Yn ogystal â llwyddiant ‘Chicago’ eleni, cafwyd mwy o bobl nag arfer yn mynychu Musicfest, sef Gŵyl Gerdd ac Ysgol Haf Ryngwladol y Ganolfan. Eto, mae’r diwgyddiad hwn bellach ar ei drydydd ddegawd ac yn parhau i gynnig amrediad anhygoel o berfformiadau gan gerddorion blaenllaw yn ystod yr wythnos o weithgareddau. Cynhaliwyd yr ŵyl ar ddiwedd mis Gorffennaf ac yn ystod yr wythnos cafwyd 24 o gyngherddau, 6 o ddosbarthiadau meistr agored, 15 o weithgareddau rhad ac am ddim a 5 cyngerdd arbennig gan fyfyrwyr yr Ysgol Haf. Bu Ysgol Haf Musicfest eleni yn croesawu 115 o fyfyrwyr o bob rhan o’r byd am wythnos o astudiaeth ddwys gyda cherddorion Musicfest, a chafwyd cyrsiau ar gyfer offerynwyr chwyth a llinynnol, cyfansoddwyr, arweinwyr a thelynorion, ymysg eraill.

Er gwaethaf ymdrechion y tywydd i ddifetha’r hwyl, cynhaliwyd dau weithgaredd awyr-agored ym mis Awst. Yn gyntaf, codwyd adeiladwaith anhygoel ‘Colourscape’ sy’n gwahodd ymwelwyr i ‘gerdded trwy liw’, ar y darn o dir ger bwys y Ganolfan am dridiau a denwyd dros 550 o ymwelwyr. Wedyn ar 27ain Awst bu ymweliad cyntaf Globe Theatre Shakespeare â’r Ganolfan yn denu 370 o bobl i’w chynhyrchiad o The Comedy of Errors a berfformwyd ar lwyfan arbennig y tu allan i’r Ganolfan.

Mae hyn i gyd yn cyfuno i sicrhau bod Canolfan y Celfyddydau yn parhau i fod yn fudiad llewyrchus ac arloesol. Mae misoedd yr haf yn rhan bwysig o’n rhaglen gyfan am y flwyddyn, yn cynnig gweithgareddau o’r safon uchaf, yn datblygu cyfleoedd newydd i gyffroi, difyrru ac ysbrydoli’n cynulleidfaoedd ac yn dangos i ymwelwyr ragoriaeth yr hyn sydd gan y sector celf yng Nghymru i’w gynnig.

AU17010