Teyrngedau yn cael eu talu i’r Arglwydd Livsey

Yr Arglwydd Livsey

Yr Arglwydd Livsey

17 Medi 2010

Mae teyrngedau wedi cael eu talu i’r Arglwydd Livsey a fu farw yn 75 oed.

Roedd yr Arglwydd Livsey yn Gymrawd o Brifysgol Aberystwyth ac yn un o sylfaenwyr Coleg Amaethyddol Cymru, a ddaeth yn ddiweddarach yn rhan o’r Brifysgol ac yna yn rhan o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.  

O 1971 tan 1985 roedd  Arglwydd Livsey yn uwch ddarlithydd mewn Rheolaeth Fferm yng Ngholeg Amaethyddol Cymru . Yna, yn dilyn isetholiad ym 1985, cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Frycheiniog a Maesyfed, etholaeth y cynrychiolodd am 11 mlynedd.

Bu’n arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig am gyfnod o 8 mlynedd a chafodd ei urddo yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2007.

Dywedodd yr Is-ganghellor, yr Athro Noel Lloyd, “Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth yr Arglwydd Livsey.  Fel cyn aelod staff o Goleg Amaethyddol Cymru a Chymrawd Prifysgol Aberystwyth, roedd yn uchel ei barch ymysg pawb oedd yn ei adnabod. Roedd ei gyfraniad at fywyd Cymru, ac yn arbennig at faterion yn ymwneud â chymunedau gwledig, yn eithriadol. Ar lefel bersonol roedd yn gefnogol iawn i sefydlu Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ac yn ffrind da i’r Brifysgol.”

Teyrnged gan Dr John Harries, Dirprwy Is Ganghellor Prifysgol Aberystywth.

Richard Livsey, y Barwn Livsey o Dalgarth

Bu farw’r Arglwydd Livsey o Dalgarth, cyn arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn dawel yn ei gartref yn Llanfihangel Talyllyn ar 15 Medi 2010 yn 75 oed. Fe’i derbyniwyd yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth yn 2007. Roedd yn angerddol dros ddatganoli i Gymru a bob amser yn dadlau dros gymunedau gwledig. Yn ŵr cwrtais a mwyn, byddai’n ennyn parch a hoffter gan bawb oedd yn ei adnabod, ond er ei wyleidd-dra, byddai’n dangos penderfyniad diysgog wrth ymgyrchu dros faterion y teimlai’n gryf drostynt.

Ganwyd a magwyd Richard Arthur Lloyd Livsey yn Nhalgarth, Sir Frycheiniog. Mynychodd Ysgol Bedales yn Swydd Hampshire cyn mynd yn ei flaen i Goleg Amaethyddol Seale-Hayne yn Nyfnaint, lle’r astudiodd am Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaethyddiaeth, a Phrifysgol Reading, lle cafodd radd MSc mewn rheolaeth amaethyddol. Ym 1961 ymunodd ag ICI a symud i Galloway yn yr Alban am flwyddyn fel Rheolwr Fferm Cynorthwyol ar un o ffermydd y cwmni; dyma lle cyfarfu â Rene, ei wraig. Yna fe’i symudwyd i Northumberland lle bu’n gweithio fel swyddog datblygu amaethyddol ICI am bum mlynedd. Pan adawodd ICI, dychwelodd i’r Alban fel Rheolwr Fferm Ystad Blair Drummond yn Swydd Perth. Yn ystod y cyfnod hwn, ym 1970, yr ymladdodd ei etholiad cyntaf fel Rhyddfrydwr, gan frwydro sedd ddiogel y Ceidwadwyr, Perth and East Perthshire, a dod yn bedwerydd a cholli ei ernes.

Ym 1971, dychwelodd Richard i Gymru gan ymuno â Choleg Amaethyddol newydd Cymru yn Aberystwyth dan arweiniad Dr David Morris. Bu’n uwch ddarlithydd mewn rheolaeth fferm yn y Coleg am 14 o flynyddoedd, a gyda Rene, bu hefyd yn ffermio tyddyn 60 erw yn Llanon. 

Er gwaethaf y diffyg llwyddiant yn yr Alban, roedd uchelgais gwleidyddol Richard yn dal i losgi, ac ym 1983 ymladdodd ei etholaeth enedigol, Brycheiniog a Maesyfed, ar docyn y Rhyddfrydwyr-SDP. Er na lwyddodd ar y cynnig hwnnw, ddwy flynedd yn ddiweddarach enillodd isetholiad yn yr etholaeth gyda mwyafrif o 559 dros y blaid Lafur. Cadwodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1987, ond gyda mwyafrif llai fyth, a bennwyd ar ôl sawl ailgyfrif, o 56 pleidlais, y tro hwn dros y Ceidwadwyr. Ymunodd â Phwyllgor Dethol y Senedd ar Amaethyddiaeth, yn ogystal â’r Pwyllgor Materion Cymreig, ond collodd ei sedd yn Etholiad Cyffredinol 1992 o 130 o bleidleisiau yn unig. Ymunodd ag ATB-Landbase Cymru fel Dirprwy Gyfarwyddwr, ond ei brif amcan oedd adennill Brycheiniog a Maesyfed, a gwnaeth hynny ym 1997 gyda mwyafrif o 5,000. Pan ddychwelodd i’r Senedd fe’i penodwyd yn Ysgrifennydd Gwrthbleidiol y Democratiaid Rhyddfrydol dros Gymru a chwaraeodd ran fawr yn y Setliad Datganoli i Gymru tan iddo roi’r gorau i’w sedd yn 2001, gan ddod yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi. Yn y fan honno fe’i penodwyd yn aelod o Bwyllgor Amgylchedd a Materion Gwledig Ewrop ac yn Llywydd Mudiad yr UE yng Nghymru.

Dros y blynyddoedd diweddar cafodd Richard fwy o amser i’w neilltuo i’w ddiddordebau eraill, gan gynnwys cerddoriaeth a chwaraeon. Ar wahân i fod yn Is-Lywydd Gŵyl Lenyddol y Gelli a Chadeirydd Gŵyl Jazz Aberhonddu, roedd yn aelod o nifer o gorau meibion, yn bysgotwr plu brwd, yn feiciwr ac yn gefnogwr rygbi a chriced Cymru.

Mae Richard yn gadael ei wraig, Rene, eu dau fab ac un ferch.