LOFAR – hwb i ymchwil solar

LOFAR

LOFAR

27 Medi 2010

Bydd y telesgop radio mawr cyntaf i’w adeiladu ym Mhrydain ers degawdau yn rhoi’r olygfa orau eto o atmosffer allanol yr Haul yn ôl gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth.

Cafodd LOFAR, neu Low Frequency Array, ei agor yn swyddogol gan y Fonesig Jocelyn Bell Burnell mewn seremoni yn Arsyllfa'r Cyngor Adnoddau Gwyddoniaeth a Thechnolegau yn Swydd Hampshire ar ddydd Llun 20fed Medi.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o 22 Prifysgol ym Mhrydain sydd wedi cydweithio ar ddatblygiad LOFAR.
Bydd y telescope, sydd yn rhan o gynllun LOFAR Ewropeaidd, yn ‘gwrando‘ ar y bydysawd ar donfeddi FM, gan gynorthwyo seryddwyr i ddatgelu pryd gafodd yn sêr cyntaf yn y Bydysawd eu ffurfio, dangos mwy am sut yr esblygodd y Bydysawd a hyd yn oed ateb cwestiynau megis “Ydym ni ar ben ein hunain” a “sut mae tyllau du yn tyfu yn ein bydysawd?”

Mae Dr Andy Breen o’r Sefydliad Mathemateg a Ffiseg yn arwain adran rhyng-blanedol  y maes gwyddoniaeth Amgylchedd Solar a’r Gofod o fewn LOFAR. Dywedodd; “Mae LOFAR yn mynd i roi i ni'r olygfa orau eto o atmosffer allanol yr Haul a’r gwynt solar, a sut mae’n effeithio ar amgylcheddau gofod y planedau. Mae canolfan Chilbolton yn rhoi’r gwahaniad llydan sydd ei angen rhwng safleoedd ar gyfer astudiaethau o’r gwynt solar - rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael gweld y data cyntaf o’r orsaf newydd hon.”

“Mae rhan Prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd yn LOFAR yn golygu fod Cymru wrth galon y datblygiadau mwyaf cyffrous ym maes gwyddoniaeth y gofod a seryddiaeth,” ychwanegodd.

Cynllun Ewropeaidd yw LOFAR a fydd, wedi ei gwblhau, yn cynnwys 5000 antena unigol mewn grwpiau bychan (gorsafoedd) ar draws Ewrop, gan gynnwys Arsyllfa Chilbolton, i greu’r telesgop radio mwyaf a manwl gywir yn y byd.  Mae LOFAR yn gweithio ar y tonfeddi isaf y mae modd cael hyd iddynt o’r Ddaear, sydd, o’i gyfuno gyda’r diweddaraf mewn cyfrifiadura uwch dechnoleg, yn golygu fod modd gwneud arolwg o ardaloedd llydan o’r awyr a chreu posibiliadau newydd i seryddwyr.

Cyllidwyd LOFAR UK drwy gydweithrediad 22 Prifysgol o’r Deyrnas Gyfunol â chonsortiwm SEPnet a’r Cyngor Adnoddau Gwyddoniaeth a Thechnolegau, gan ei wneud y consortiwm astronomeg radio mwyaf yn y wlad. Mae dros 70 o astronomegwyr blaenllaw'r Deyrnas Gyfunol yn ymwneud yn uniongyrchol gyda’r prosiect.

Y prifysgolion sydd yn rhan o’r cynllun yw  Aberystwyth, Birmingham, Caergrawnt, Caerdydd, Durham, Caeredin, Glasgow, Hertfordshire, Caerlŷr, Liverpool John Moores, Caint, Manceinion, Newcastle, Nottingham, Y Brifysgol Agored, Rhydychen, Portsmouth, Prifysgol Llundain Queen Mary, Sheffield, Southampton, Sussex, a Phrifysgol Llundain.

AU17610