Llety - Y diweddaraf

Myfyrwyr ar y traeth

Myfyrwyr ar y traeth

27 Medi 2010

Mae’r Brifysgol wedi bod yn cadw llygad manwl ar y llety sydd ar gael o fewn neuaddau ac yn y sector breifat.

Yr wythnos ddiwethaf roedd y Brifysgol yn cymell myfyrwyr oedd yn dychwelyd ond heb sicrhau llety ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd, i gysylltu fel bod modd eu hysbysu am lety newydd oedd ar gael pan fyddai’r Brifysgol yn cael gwybod amdano.

Cafodd nifer o fyfyrwyr sydd yn dychwelyd a myfyrwyr rhyngwladol Erasmus eu cartrefu mewn neuaddau preswyl Prifysgol Aberystwyth yr wythnos ddiwethaf.

Rydym yn cymell myfyrwyr sydd yn byw mewn tai rhent ac sydd ag ystafelloedd unigol i’w gosod, i adael y wybodaeth ar hysbysfwrdd y Swyddfa Llety, sydd yn nerbynfa Penbryn, ac i ddweud wrth y Swyddfa Llety.

Mae modd cysylltu gyda Swyddfa Llety’r Brifysgol ar 01970 622984 / accommodation@aber.ac.uk.

AU17310