Gwydr lliw canoloesol yn ysbrydoli

Yr Athro Dave Barnes (chwith) a Dr Stephen Pugh yn ystod profion maes ar draeth Clarach.

Yr Athro Dave Barnes (chwith) a Dr Stephen Pugh yn ystod profion maes ar draeth Clarach.

29 Medi 2010

Mae’r gwydr lliw godidog sy’n addurno eglwysi cadeiriol canoloesol wedi ysbrydoli tîm o wyddonwyr y gofod sy’n ceisio darlunio lliwiau gwirioneddol y blaned Mawrth.

Mae tîm roboteg y gofod o’r Adran Gyfrifiadureg yn arwain y gwaith o ddatblygu’r targed calibro camerâu ar gyfer taith 2018 ESA ExoMars.

Elfen annatod o’r targed calibro camerâu yw’r sglodion bach o wydr lliw, a gynhyrchir trwy ddefnyddio prosesau tebyg iawn i rai a ddefnyddid yn y canol oesoedd.

“Ychydig iawn neu ddim o gwbl o osôn sydd yn atmosffer y blaned Mawrth, ac oherwydd hyn mae’r lefelau uchel o ymbelydredd uwch-fioled yn gallu peri i liwiau bylu yng ngolau’r haul,” esbonia’r Athro Dave Barnes, arweinydd y gwaith ar y Crwydrwr ExoMars yn Aberystwyth.

“Cafwyd y syniad o ddefnyddio gwydr lliw ar ôl sylwi ar y ffenestri lliw a geir mewn eglwysi. Er bod golau’r haul wedi eu taro ers canrifoedd, nid yw eu lliwiau’n dirywio rhyw lawer, os o gwbl” meddai.

Bydd un o declynnau Camera Panoramig (PanCam) y crwydrwr ExoMars yn tynnu lluniau o arwynebedd y blaned Mawrth.

Tîm Aberystwyth fydd yn gyfrifol am brosesu’r delweddau hyn drwy ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau delweddu cyfrifiadurol ac algorithmau a ddatblygwyd yn y Brifysgol.

Un broblem yw bod amgylchedd y blaned Mawrth yn creu gwawr ym mhob un o’r delweddau. Achosir hyn gan y mân-ronynnau o lwch sydd yn atmosffer y blaned.

Mae’r gwyddonwyr am gywiro lliwiau’r delweddau (i’w gwneud yn debycach i’r hyn y byddai llygaid dynol yn ei weld), i’w helpu i ganfod targedau gwyddonol posibl ar gyfer ymchwil pellach.

I wneud hyn, rhaid gosod Targed Calibradu Camerâu ar y crwydrwr ExoMars, ac yna bob tro y caiff cyfres o luniau eu tynnu, caiff delweddau o’r Targed Calibradu Camerâu eu tynnu hefyd.

Offeryn monocrom aml-sbectrol yw’r PanCam. Trwy ddefnyddio’r delweddau a dynnir gyda’r ffiltrau sydd ar gael, ynghyd â’r data o ddelweddau’r Targed Calibradu Camerâu, mae’n bosib creu delweddau lliw cywir o arwyneb y blaned Mawrth.

Mae’r tîm roboteg y gofod yn cydweithio’n agos gyda chydweithwyr o’r Sefydliad Mathemateg a Gwyddorau Ffisegol (IMAP) sydd â’r arbenigedd angenrheidiol mewn gwydr.

Er bod Targed Calibradu PanCam yn fach iawn – 50 mm × 50 mm, 18 mm o uchder, ac yn pwyso dim mwy na 20 gram – gall ei gyfraniad i’r gwaith o chwilio am fywyd ar y blaned Mawrth fod yn enfawr yn y dyfodol.

Noddir y PanCam a gwaith y Targed Calibradu PanCam gan Asiantaeth y Gofod y Deyrnas Unedig.

AU9910