Ych chi’n gallu rhedeg ras gyfnewid milltir mewn 4 munud?

Cyfarwyddwr y Ganolfan Chwaraeon, Frank Rowe (dde), a'i gydweithwraig Tia Woodward.

Cyfarwyddwr y Ganolfan Chwaraeon, Frank Rowe (dde), a'i gydweithwraig Tia Woodward.

30 Medi 2010

Gosodwyd her i bobl Ceredigion, sef rhedeg ras gyfnewid milltir mewn llai na 4 munud, er mwyn dathlu agoriad swyddogol trac rhedeg 400 metr newydd Prifysgol Aberystwyth.

Cafodd y trac rhedeg dwy lôn ei osod yn ystod yr haf ac mae iddo wyneb Mondotrack SX, deunydd o safon rhedeg broffesiynol sydd wedi ei osod gan Mondo, cyflenwyr swyddogol wynebau traciau ar gyfer Gemau Olympaidd 2012 Llundain.

Trefnwyd y Cwpan Her Milltir 4-Munud gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol ac mae’n cael ei gynnal rhwng dydd Llun 4ydd a dydd Iau 14eg o Hydref gyda’r enillwyr yn cael eu cyflwyno yn ystod seremoni agoriadol arbennig am 12 o’r gloch ganol dydd ar ddiwrnod olaf y cystadlu.

Mae’r gystadleuaeth ar agor i dimoedd o 4 (2 fachgen a 2 ferch). Pris mynediad yw £5 a bydd yr elw yn mynd at elusen. Dylai timau sydd eisiau cymryd rhan drefnu amser ymlaen llaw ar gyfer cofnodi eu hamser drwy ffonio’r Ganolfan Chwaraeon ar 01970 622280.

Dywedodd Frank Rowe, Cyfarwyddwr Canolfan Chwaraeon y Brifysgol:
“Mae’r trac newydd hwn yn ychwanegiad pwysig i’r casgliad gwych o adnoddau sydd gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol i’w gynnig. Yn yr un modd â’r trefniadau ar gyfer y cae chwarae pob tywydd ar gampws Penglais mae’r trac rhedeg at gael i glybiau rhedeg lleol a’r gymuned ehangach yng Ngheredigion, yn ogystal ag aelodau staff a myfyrwyr y Brifysgol.”

Mae rheolau’r gystadleuaeth a gwybodaeth am sut i hurio’r trac rhedeg ar gael ar y wefan http://www.aber.ac.uk/en/sportscentre/facilities/outdoor-facilities/runningtrack/.

AU18010