Hyrwyddo cymuned decach i bawb

Ffilmio'r fideo Cydraddoldeb ac Amrywioldeb.

Ffilmio'r fideo Cydraddoldeb ac Amrywioldeb.

01 Hydref 2010

Gyda mwy na 8,500 o fyfyrwyr a 2000 o staff o dros 100 o wledydd ar draws y byd ddylai hi ddim bod yn syndod fod Prifysgol Aberystwyth yn gartref i gymuned gyfoethog ac amrywiol.

Yn 2009 lansiodd y Brifysgol ei Chynllun Cydraddoldeb ac Amrywioldeb er mwyn dangos ei hymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth a chefnogi Deddf Cydraddoldeb 2010 sydd â’r nod o hyrwyddo cymuned deg, gyfartal ac amrywiol.

Nawr mae’r Brifysgol yn lansio fideo dwyieithog newydd sydd yn cynnwys aelodau staff a myfyrwyr er mwyn hyrwyddo’r Cynllun a phwysleisio’r gwerth y mae’r Brifysgol yn ei osod ar yr amrywioldeb ymysg staff a myfyrwyr.

Mae’r fideo 2½ munud sydd ar y we yn adlewyrchu’r rhesymau paham for Prifysgol Aberystwyth yn le gwych i astudio, gweithio ac ymweld ag ef, ac un o’r prifysgolion gorau yn y Deyrnas Gyfunol am fodlonrwydd myfyrwyr yn ôl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2010. 

Cafodd ei chomisiynu gan Adrannau Adnoddau Dynol a Marchnata’r Brifysgol ac mae’n arwain y gwyliwr drwy negeseuon allweddol y Cynllun Cydraddoldeb ac mae’r sinematograffeg hyfryd yn dangos ystod eang o bobl o wahanol gefndiroedd yn gweithio, astudio ac yn ymweld â nifer o leoliadau gwahanol ar y campws.

Dywedodd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, Sue Chambers, “Mae’r fideo hwn wedi derbyn cefnogaeth ar y lefel uchaf, gan Gyngor y Brifysgol. Ein nod yw creu a hyrwyddo diwylliant lle mae parch a dealltwriaeth yn cael eu meithrin, a bod gwerth amrywioldeb ein cymuned yn cael ei ddathlu.”

Dywedodd cynhyrchydd y Fideo, Richard Gott, “Mae gwneud y fideo a gweithio gyda’r gwahanol gyfranwyr, sydd wedi bod mor fodlon i roi o’u hamser, wedi bod yn llawer fawr o hwyl. Rydym wedi llwyddo i greu cynhyrchiad sydd yn adlewyrchu’r egwyddorion craidd sydd yn sail i Gydraddoldeb ac Amrywioldeb, yn ymarferol ac o ran dyhead, yn ogystal ag elfen o hwyl, cynhesrwydd ac ymdeimlad o berthyn.”

Mae’r fideo ar gael ar y wefan www.aber.ac.uk/cydraddoldeb mewn amryw o ffurfiau hawdd i’w defnyddio. Mae’r Brifysgol yn croesawu unrhyw sylwadau am y fideo. Defnyddiwch yn ffurflen adborth ar y wefan i anfon eich sylwadau atom.

AU16310