Memorandwm Cytundeb

Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Ms Jacqui Weatherburn, Pennaeth Coleg Ceredigion yn arwyddo'r Memorandwm Cytundeb.

Yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Ms Jacqui Weatherburn, Pennaeth Coleg Ceredigion yn arwyddo'r Memorandwm Cytundeb.

04 Hydref 2010

Mae Prifysgol Aberystwyth a Choleg Ceredigion wedi arwyddo Memorandum Cytundeb newydd sydd yn adeiladu ar y bartneriaeth gafodd ei sefydlu rhwng y ddau sefydliad yn y flwyddyn 2000.

Mae’r Memorandwm Cytundeb yn pwysleisio ymrwymiad y ddau sefydliad i gyflawni eu cyfrifoldebau i ddysgwyr ac i ddatblygiad addysgiadol, cymdeithasol ac economaidd Ceredigion.

Bydd llwybrau newydd yn cael eu datblygu er mwyn galluogi myfyrwyr Coleg Ceredigion i symud ymlaen i brifysgol, ac mae gwarant y bydd pob myfyriwr o’r Coleg yn derbyn cynnig drwy broses ymgeisio UCAS.

Mae’r ddau sefydliad hefyd wedi ymrwymo i ystyried ystod o gyfleoedd ar gyfer cydweithio gan gynnwys datblygiad proffesiynol staff a darpariaeth hyfforddiant ac arbenigedd i gwmnïoedd lleol.

Yn ogystal, mae’r Coleg a’r Brifysgol yn bwriadu ehangu’r trefniadau presennol ar gyfer rhannu cyfleusterau ac adnoddau megis gweithgareddau marchnata a chefnogaeth ar gyfer technoleg gwybodaeth a chyfleusterau a/neu offer er mwyn hwyluso addysgu’r myfyrwyr.

Mae’r cytundeb wedi ei groesawi gan yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth.
“Dros y 10 mlynedd diwethaf mae’r Brifysgol a Choleg Ceredigion wedi cydweithio yn agos er mwyn gwella’r cyfleoedd sydd ar gael i’r rhai sydd am astudio mewn Addysg Bellach ac Uwch.”

“Mae arwyddo’r Memorandwm Cytundeb hwn yn gydnabyddiaeth o’r hyn sydd eisoes wedi ei gyflawni ac yn nodi’r meysydd lle y gall cydweithio pellach fod o fudd i’r ddau sefydliad ac i gymuned ehangach Ceredigion a Chanolbarth Cymru.”

Dywedodd Ms Jacqui Weatherburn, Pennaeth Coleg Ceredigion:
“Rwyf wrth fy modd ein bod yn arwyddo’r Memorandwm Cytundeb hwn gyda Phrifysgol Aberystwyth. Mae’r Coleg wedi gweithio yn agos gyda’r Brifysgol ers nifer o flynyddoedd ac mae’r Memorandwm hwn yn ychwanegu ymhellach at y bartneriaeth hon ar adeg pan fod cydweithio yn allweddol er mwyn twf a datblygiad pellach y sectorau addysg a hyfforddiant.”

Prifysgol Aberystwyth
Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872. Mae ganddi 10,210 o fyfyrwyr (8,386 o israddedigion a 1,824 o uwchraddedigion a mwy na 2,100 o aelodau staff. Mae’n un o’r pum prifysgol orau am fodlonrwydd myfyrwyr yn y Deyrnas Gyfunol yn ôl Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2010 a gwelwyd cynnydd yn nifer y ceisiadau ar gyfer cyrsiau israddedig o 14%. Ar hyn o bryd mae’n buddsoddi £25 miliwn mewn cyfleusterau dysgu ac ymchwil newydd ar gyfer Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Chefn Gwlad (IBERS). 

Coleg Ceredigion
Coleg Ceredigion yw’r unig goleg addysg bellach yng Ngheredigion. Mae’n gweithredu ar ddau gampws yn Aberystwyth ac yn Aberteifi ac yn cofrestru mwy na 700 o fyfyrwyr llawn amser a mwy na 2,000 o fyfyrwyr rhan amser bob blwyddyn. Mae’r Coleg yn cynnig ystod eang o gyrsiau galwedigaethol a phortffolio o gyrsiau academaidd ar gyfer pobl ifainc ac oedolion dros 16 oed ac mae’n denu myfyrwyr o Geredigion, Sir Benfro, Sir Gâr a Phowys. Yn ystod y ddwy flynedd nesaf mae’r Coleg yn gobeithio datblygu rhaglenni newydd mewn Trin Gwallt a Therapi Harddwch, Diwydiannau Gwyrdd a Chynaliadwy, a Sgiliau Adeiladu Traddodiadol. Mae mwy na 200 o aelodau staff yn gweithio yn y Coleg.

AU18210