Arweinyddiaeth ar gyfer busnesau creadigol

Y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC, yn siarad yn ystod lansio’r cwrs Arweinyddiaeth ar gyfer Busnesau Creadigol.

Y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC, yn siarad yn ystod lansio’r cwrs Arweinyddiaeth ar gyfer Busnesau Creadigol.

18 Hydref 2010

Cafodd rhaglen newydd flaengar ac unigryw ar gyfer busnesau cyfryngau creadigol yng Nghymru ei lansio gan y Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC, ym Mhrifysgol Aberystwyth ar ddydd Gwener 15 Hydref 2010.

Mae’r cwrs Arweinyddiaeth ar gyfer Busnesau Creadigol yn cynnig cyfle i 15 rheolwr cwmni o brif gyflogwyr y sector drafod blaenoriaethau’r dydd a’r dyfodol, gyda mentoriaid ac arweinwyr o fyd busnes rhyngwladol dros 4 seminar i’w cynnal rhwng nawr a mis Mawrth 2011.  

Nod y gyfres o 4 seminar, a ddatblygwyd gan Brifysgol Aberystwyth gyda chefnogaeth Academi+ Skillset, sy’n ariannu’r rhaglen, a Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru, yw galluogi rheolwyr i ddatblygu sgiliau newydd a pharhau’n greadigol yn y cyfnod anodd hwn i’r cyfryngau creadigol.

Dyfyniad gan Alun Ffred Jones, AC: “Mae Darlledu yng Nghymru yn wynebu cyfnod heriol yn ei hanes. Mae’n galonogol iawn fod y cwrs hwn yn creu cyd-destyn ar gyfer trafodaeth am greadigrwydd a dyfeisgarwch. Rwy’n edrych ymlaen i drafod hyn ymhellach gyda’r swyddogion a fydd yn bresenol.”

Mae Arweinyddiaeth ar gyfer Busnesau Creadigol yn raglen wedi ei gynllunio yn arbennig ar gyfer uwch reolwyr ym meysydd darlledu, ffilm a fideo, gemau a meddalwedd cyfrifiadurol i ehangu eu sgiliau arweinyddiaeth a sut i ymdrin â strategaethau i gyfleu llwyddiant i’w busnesau yn yr oes dechnolegol ddyrys a’r hinsawdd economaidd dra newidiol.

Mae’r rhaglen wedi ei chynllunio er mwyn gosod y rhai sy’n cymryd rhan mewn amgylchfyd o wybodaeth, sgiliau, cyd-destyn - cynnwys a theori gellid ei ddefnyddio yn eu cwmnïau eu hunain. 

“Rydym mewn cyfnod tyngedfennol yn natblygiad y diwydiannau creadigol yng Nghymru. Mae’n amser i ddod ynghyd, i ddysgu gyda’n gilydd i werthuso a datblygu ein dyheadau a’n blaengaredd, “ dywedodd yr Athro Elan Closs Stephens, cynllunydd y gyfres o seminarau.

“Mae yna nifer o ofynion ar gyfer Busnesau Creadigol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn ogystal â Llywodraeth y DU am weld y cwmnïau ar flaen y gad yn ail-adeiladu’r economi. Mae’r cyhoedd am weld adloniant a diwylliant mewn maes cystadleuol dros ben.”

Fe ategodd yr Athro Adrian Kear, Pennaeth yr Adran Ffilm a Theledu:
“Fel arweinwyr mae’n rhaid i fynychwyr y seminarau barhau i fod yn greadigol, flaengar ac yn uchelgeisiol ynghanol dirwasgiad gwaetha’r oes. Mae adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, sy’n arweinydd byd mewn ymchwil, wedi derbyn cefnogaeth Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru ac Academi+ Skillset Cymru er mwyn creu’r sesiynau datblygu ar sialensiau sydd eu hangen ar gyfer yr arweinwyr â’u cwmnïau” 

Gan ffocysu ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol, mae’r rhaglen am herio’r unigolion i ystyried yn feirniadol eu dull o arweinyddiaeth a’r modd maent yn arwain eraill, gan dynnu ar eu profiadau er mwyn datblygu eu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiad fydd yn galluogi arweinwyr ym maes darlledu, y cyfryngau a diwylliant i fod ar flaen y gad, yn gyrru’r newidiadau sydd eu hangen i gynyddu creadigrwydd a blaengaredd o fewn y gweithlu, gan osod Cymru ar y blaen yn greadigol. 

Cafodd y seminar gyntaf ei harwain gan Philippa Davies, a chafwyd trafodaeth o amgylch y bwrdd gyda’r Gweinidog Treftadaeth Alun Ffred Jones AC. 

Mi fydd yr ail seminar fis Tachwedd yn cael ei harwain gan Emmanuel Gobbillot, ac mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi trefnu i fod yn westai cinio yn un o seminarau 2011.

“Fel cydlynydd Academi+ Skillset, rwy’n falch o fod yn rhan o gwrs mor uchelgeisiol a ddylai gwneud gwahaniaeth mawr i’r cyfryngau yng Nghymru yn y cyfnod caled sy’n ein hwynebu yn awr,” meddai Sue Jeffries.

“Fe sefydlwydd Academi+ Skillset er mwyn helpu’r diwydiannau creadigol yng Nghymru i ddod drwy’r dirwasgiad yn gryfach a gyda ffocws gliriach ar y ffordd o’u blaen. Dyma’r union fath o gwrs i gyflawni’r orchwyl hon. Hyd y gwn i does yna’r un cwrs wedi bod mor uchelgeisiol yn ei hamcanion, mae’n wir haeddu llwyddiant ac i fod yn elfen barhaol o hyfforddiant arweinyddiaeth a rheoli y dyfodol.”

AU19910