Natur drwy lygad lloeren

Rhan o fap cynefin bywyd gwyllt Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Rhan o fap cynefin bywyd gwyllt Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

02 Tachwedd 2010

Mae technoleg ofodol flaenllaw yn cael ei defnyddio i ddiweddaru mapiau o gynefinoedd bywyd gwyllt Cymru. Ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, ddiwedd mis Mawrth 2012, Cymru fydd y wlad gyntaf yn Ewrop i greu map cenedlaethol o gynefinoedd drwy ddefnyddio technoleg ofodol.

Caiff y prosiect ei arwain gan y Cyngor Cefn Gwlad, ar y cyd â Phrifysgol Aberystwyth ac Environment Systems, a’r bwriad yw rhoi cipolwg ohono i ddarpar ddefnyddwyr mewn digwyddiad arbennig yn Yr Amgueddfa Genedlaethol, Caerdydd, Ddydd Mawrth 2 Tachwedd 2010.

Cafodd yr arolwg gwreiddiol o gynefinoedd bywyd gwyllt Cymru – o laswelltiroedd a choetiroedd, i rostiroedd arfordirol a chorsydd – ei gynnal gan griw o fiolegwyr o’r Cyngor Cefn Gwad a fu’n crwydro Cymru benbaladr. Fe fuon nhw wrthi am nifer o ddegawdau nes cwblhau’r arolwg yn 1997. Erbyn hyn, trwy ddefnyddio delweddau o loerenni sy’n pasio dros Gymru, mae modd diweddaru’r mapiau’n llawer rhatach a chyflymach –arwydd o’r modd y mae technoleg wedi symud ymlaen dros y degawd diwethaf. Yn anhygoel, mae’r lluniau lloeren yn cynnwys mwy fyth o fanylion nag a gasglwyd gan y gweithwyr maes yn ystod yr arolwg gwreiddiol!

Mae casglu’r wybodaeth ddiweddaraf am ein hamgylchedd naturiol yn hollbwysig gan fod yr amgylchedd yn rhoi amrywiaeth eang o wasanaethau hanfodol inni. Mae’n creu gwaith ac incwm sy’n werth biliynau o bunnoedd; yn darparu dŵr; yn cynhyrchu bwyd, ynni a phren; ac yn cynnal ein bywyd gwyllt. Yn wir, yr amgylchedd naturiol yw ein system cynnal bywyd, ac mae o angen amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid i weithio’n iawn.

Yn ôl Keith Davies, Pennaeth Polisi Amgylcheddol yn y Cyngor Cefn Gwlad: “Er mwyn cynllunio a rheoli’r newidiadau sy’n effeithio ar amgylchedd naturiol Cymru, mae’n hollbwysig fod gennym ni’r wybodaeth orau bosib. Mae ein lles cymdeithasol ac economaidd yn dibynnu ar warchod yr adnoddau amgylcheddol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

“Does unman arall ym Mhrydain wedi cynnal arolygon ar yr un raddfa na’r un dwyster â’r arolygon maes gwreiddiol a gynhaliwyd yma yng Nghymru. Gan fod modd inni ddiweddaru’r mapiau gwreiddiol, ac olrhain unrhyw newidiadau, mi fyddan nhw’n cynnig sylfaen wyddonol gadarn i’r cyngor a roddwn i’r Llywodraeth, awdurdodau lleol ac eraill ynglŷn â’r ffyrdd gorau o reoli a gwarchod adnoddau naturiol Cymru.”

Yn ôl Yr Athro Richard Lucas o Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: “Mae defnyddio technoleg lloeren yn gwneud y dasg o fapio a monitro maint a chyflwr cynefinoedd a thiroedd amaethyddol yn llawer haws a rhatach. Rydw i wrth fy modd ein bod yn gallu adeiladu ar waith ymroddedig y cadwraethwyr a gynhaliodd yr arolwg gwreiddiol.

“Drwy ddefnyddio delweddau lloeren, rydyn ni’n gallu diweddaru’r mapiau, monitro newidiadau ar lefel genedlaethol, a chyfrannu at gynllunio yng ngoleuni hyn. Gyda thechnolegau newydd, gallwn rannu’r wybodaeth â chynulleidfa eang a chwarae rhan allweddol yn y gwaith o sicrhau fod treftadaeth naturiol Cymru’n cael ei warchod i genedlaethau’r dyfodol.”

Meddai Steve Keyworth, Cyfarwyddwr Environment Systems: “Mae’r gwaith yn dangos sut all corff llywodraeth, Prifysgol a busnes preifat weithio gyda’i gilydd i greu dull effeithiol ac effeithlon o gael gafael ar dystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau amgylcheddol. Mae Cymru ar flaen y gad o ran defnyddio technoleg lloeren i edrych ar gyflwr yr amgylchedd a gallwn ddefnyddio’n profiad i helpu rhanbarthau a gwledydd i ddatblygu cynlluniau o’r fath.”

Bydd y prosiect yn cyfrannu at gyflawni menter newydd Llywodraeth y Cynulliad, sef Cymru Fyw – mae ymgynghoriad ynglŷn â’r fenter yn cael ei gynnal ar hyn o bryd. Nod Cymru Fyw yw esgor ar ddull mwy cydgysylltiedig o warchod yr amgylchedd er mwyn gwella iechyd ecosystemau’n gyffredinol – sef yr elfennau sy’n cynnal bywyd ar y ddaear. Mae croeso i bawb dweud eu dweud – ewch i http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/eshlivingwalescons/?lang=cy  a chyflwynwch eich syniadau a’ch ymatebion cyn diwedd mis Rhagfyr 2010.