The Persians yn ennill gwobr ddylunio

Golygfa o The Persians

Golygfa o The Persians

12 Tachwedd 2010

Mae gwaith Mike Brookes a Simon Banham o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ar gynhyrchiad National Theatre Wales (NTW) o The Persians wedi cael ei gydnabod â gwobr am y Dyluniad Gorau gan y Theatrical Management Association (Cymdeithas Rheolwyr Theatraidd).

Y Gymdeithas Rheolwyr Theatraidd yw prif gymdeithas busnes gwledydd Prydain ar gyfer sefydliadau a chwmnioedd sydd yn ymwneud yn broffesiynol gyda chynhrychu a chyflwyno’r celfyddydau perfformio.

Cyhoeddwyd y wobr yng Ngwobrau Blynyddol y Gymdeithas eleni a gynhaliwyd yn Lyric Hammersmith ddydd Sul 7 Tachwedd.

Roedd Simon Banham, Mike Brookes a’r Athro Mike Pearson, sydd hefyd yn aelod o staff yr Adran, ill tri, yn chwarae rhannau allweddol yn y cynhyrchiad a lwyfannwyd yn y pentref hyfforddi milwrol ar Fynydd Epynt ym Mannau Brycheiniog ym mis Awst 2010.

The Persians oedd y brif sioe yn nhymor agoriadol o waith newydd gan y Theatr Genedlaethol Saesneg. Enillodd glod gan y beirniaid yn y wasg, gyda’r Guardian yn ei disgrifio fel “cynhyrchiad penigamp” a’r Telegraph fel “rhyfeddol, un o’r digwyddiadau theatraidd mwyaf ei ddychymyg a mwyaf grymus ac ingol eleni.”

Wrth siarad am y wobr dywedodd Mike Brookes: "Mae’r ymateb i The Persians yn galonogol iawn. Mae’n wirioneddol foddhaol i weld bod y gwaith wedi aros yn nychymyg pobl fel hyn".

Dywedodd Simon Banham, wrth iddo yntau siarad am y wobr: “Rwy wrth fy modd bod ein gwaith ar The Persians wedi cael cystal croeso. Mae’r gydnabyddiaeth sy’n dod gyda’r wobr hon yn ymwneud cymaint ag uchelgais yr NTW a’r gefnogaeth a’r anogaeth y mae’r Adran yn eu cynnig i’r rhai ohonom sy’n ymgymryd ag ymarfer proffesiynol ag yw yn ymwneud â gwaith y ddau ddyluniwr.”

Dywedodd yr Athro Adrian Kear, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu:
‘Rwy wrth fy modd bod gwaith Mike Brookes a Simon Banham wedi cael ei gydnabod gan y wobr nodedig hon. Mae eu deallusrwydd creadigol a’u profiad proffesiynol hwy wrth wraidd y ddarpariaeth Senograffeg a Dylunio Theatraidd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, ac mae eu llwyddiant yn The Persians yn dystiolaeth o’r manteision o gael ymchwil flaengar yn ogystal ag ymarfer proffesiynol yn yr Adran. Mae hefyd yn dystiolaeth o’r cyfraniad cryf y mae’r Adran yn ei wneud at fywyd creadigol y genedl.

Ar hyn o bryd mae Simon Banham wrthi’n gweithio ar opera newydd am fomio awyrdaith Air India 182, cynhyrchiad ar y cyd rhwng Gŵyl Celfyddydau Perfformiadol Ryngwladol PuSh yn Vancouver a gŵyl canol haf Corc.

Ac mae Mike Brookes ym Merlin, wrthi’n cwblhau comisiwn i Hebbel am Ufer.

Bydd Banham a Brookes yn cydweithio eto ar ddarn newydd i Quarantine (www.qtine.com) o’r enw ‘Entitled' a fydd yn agor y flwyddyn nesaf yn y Royal Exchange ym Manceinion a Sadler’s Wells yn Llundain.

Ers 1991 mae Gwobrau Theatr y Gymdeithas Rheolwyr Theatraidd wedi dathlu’r rhagoriaeth greadigol a’r gwaith eithriadol a welir yn theatrau gwledydd Prydain bob blwyddyn. Yn 2005 sefydlodd y Gymdeithas ei Gwobrau Rheoli er mwyn hyrwyddo a gwobrwyo mentrau a doniau busnes mewn cyrff yn y celfyddydau perfformiadol.

AU21010