‘Mads’ yn Stadiwm y Mileniwm

Yr Hen Goleg

Yr Hen Goleg

12 Tachwedd 2010

Ddydd Sadwrn bu 90 o gyn fyfyrwyr a myfyrwyr presennol Prifysgol Aberystwyth yn canu gyda Chantorion Madrigal y Brifysgol ar faes chwarae Stadiwm y Mileniwm cyn gem Cymru yn erbyn De Affrica.

Roedd y digwyddiad yn rhan o ddathliadau 60ain mlwyddiant y côr, un o gymdeithasau hynaf y Brifysgol.

Ers 1950 mae mwy na 500 o fyfyrwyr wedi canu gyda’r Cantorion Madrigal Elisabethaidd, neu’r ‘Mads’ fel y mae’r côr yn cael ei adnabod. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r Mads wedi cyfoethogi bywyd diwylliannol Aberystwyth a Chymru yn gyffredinol. Yn wir, mae’r Mads wedi gwneud eu marc yn rhyngwladol ac wedi teithio ar draws y byd i wledydd megis Rwsia, Gwlad yr Iâ, yr Unol Daleithiau, Ynysoedd y Seychelles a’r rhan fwyaf o Ewrop. 

Mae’r Mads wedi perfformio ar deledu a radio, cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau eraill, ac wedi gweithio gyda chyfansoddwyr megis Michael Tippett a chael darnau comisiwn wedi eu cyfansoddi ar ei gyfer.

Mae’r dathliadau 60ain mlwyddiant wedi cynnwys cyhoeddi llyfr ac archif ddigidol am hanes y côr a chomisiynu darnau newydd. Bydd y cyfan yn cyrraedd uchafbwynt gyda pherfformiad cyhoeddus yng Ngregynog ar y 4ydd o Ragfyr.

Mae’r côr wedi cynhyrchu nifer o raddedigion eithriadol sydd wedi mynd ymlaen i fod yr arweinwyr ym mywyd cerddorol Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Mae'r rhain yn cynnwys William Matthias, Is Lywydd yr Eisteddfod Ryngwladol Jane Davies, Cyfarwyddwr Côr Ieuenctid Cenedlaethol Prydain, a Haydn James a fu’n dathlu 41 mlynedd ddi-dor fel arweinydd yng nghymuned Cymry Llundain yn ddiweddar. 

Mae Haydn wedi gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cerddorol Undeb Rygbi Cymru yn ystod yr un ar ddeg tymor diwethaf, gan arwain corau a bandiau yn ystod y canu cyn gemau rhyngwladol Cymru yn Stadiwm y Mileniwm Caerdydd ar fwy na 60ain achlysur. Haydn estynnodd y gwahoddiad i’r Mads ganu cyn gem Cymru / De Affrica.

Dywedodd Dale Webb, Cadeirydd cymdeithas cyn fyfyrwyr y côr:
“Mae’n fraint enfawr i ni gael canu dros ein gwlad fel rhan o’n dathliadau 60 mlwyddiant ac rydym yn ddiolchgar am y cyfle arbennig hwn.”