Llysgennad creadigol

Eleri Mills

Eleri Mills

18 Tachwedd 2010

Yr artist of Faldwyn, Eleri Mills, sydd yn astudio am radd MA mewn Celfyddyd Gain yn Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth, yw enillydd Dyfarniad Llysgennad Cymru Greadigol 2010-11. 

Enwebwyd Eleri am y wobr, sydd yn cynnwys rhodd ariannol o £25,000, gan Ganolfan Grefft Rhuthun, sefydliad sydd wedi cydweithio yn agos â hi dros gyfnod hir. 

Yn ystod haf 2011 bydd y Ganolfan yn darparu gofod gweithdy i Eleri a fydd yn ei chaniatáu i allu cyfrannu tuag at raglen addysg y Ganolfan.

Yna, yn 2012 bydd Eleri yn derbyn gwahoddiad i fod yn artist gwadd ym Mhrifysgol Columbia, Efrog Newydd. Mae’r Brifysgol yn gweithio’n agos gydag amgueddfeydd a’r gymuned gelfyddydol yn Efrog Newydd ac mae posibiliadau mawr y caiff gyfleoedd i ddarlithio mewn sefydliadau cysylltiedig yn Baltimore a Chicago.

Yn dilyn hyn bydd ei gwaith yn cael ei gynnwys yn Nangosiad SOFA (Sculpture Objects & Functional Art) 2012, Efrog Newydd.

Bydd arddangosfa o brintiadau sydd wedi eu cynhrychu gan Eleri fel rhan o’i chwrs MA yn cael ei chynnal yn Oriel Ysgol Gelf Aberystwyth yn ystod mis May 2011.

Dywedodd Robert Meyrick, Pennaeth yr Ysgol Gelf “Llongyfarchiadau cynhesaf i Eleri ar ei llwyddiant. Mae’n llwyr haeddiannol o’r Wobr a’r cyfle gwych i weithio, darlithio ac arddangos yn Efrog Newydd. Mae hi’n artist cyflawn ac yn ddewis rhagorol i wasanaethau Cymru fel Llysgennad Creadigol. Mae eisoes wedi gwneud cyfraniad pwysig a gwerthfawr i’n cymuned ymchwil drwy’r gwaith printio y mae wedi ei wneud fel myfyrwraig ôl-raddedig.” 

Cysyllta gwaith Eleri'n hudol â thirlun a'r hanes sy'n parhau ac ymdeimlad o le, amser a chwedl mewn pwythau a lliw gofalus.

Mae wedi arddangos yn eang ym Mhrydain a thu hwnt ers diwedd y 1970au gan gynnwys yn Amgueddfeydd Celf Fodern Kyoto a Tokyo, Museu Textil d'Indumentaria, Barcelona a Museo Nacional de Artes Decorativas, Madrid; mae hefyd wedi arddangos yn Nangosias SOFA Chicagoa Collect yn Amgueddfa Victoria ac Albert gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Dyfernir Llysgenhadon Cymru Greadigol drwy enwebiadau. Cynhwysant sefydliad o Gymru a dimensiwn rhyngwladol, sef yr artist a'r sefydliad sy'n ei gynnal yng Nghymru a'r partner y tu allan i Gymru.

Roedd Dyfarniad Llysgennad Cymru Greadigol yn un o 19 gwobr gwerth mwy na £330,000 gafodd eu cyhoeddi gan Gyngor Celfyddydau Cymru ddydd Mawrth 16eg Tachwedd.