Dylunio Bloodhound SSC

Bloodhound SSC - y car 1000 milltir yr awr

Bloodhound SSC - y car 1000 milltir yr awr

22 Tachwedd 2010

Cymdeithas Ddysgedig Cymru

Frontiers

“Designing BLOODHOUND SSC – The 1000mph Car”

Darlith Gyhoeddus gan yr Athro Kenneth Morgan
Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe

7.00 yr hwyr, dydd Iau, 25 Tachwedd, 2010,
Yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth

Mae Prosiect BLOODHOUND SSC yn anelu at fynd â’r Record Cyflymder ar Dir i dir hollol newydd. Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn helpu i dylunio cerbyd, a fydd yn cynnwys gyrrwr, a fydd yn gallu cyrraedd 1,000 milltir yr awr erbyn 2012. Byddai hynny’n mynd y tu hwnt i’r Record Cyflymder ar Dir ar hyn o bryd, sef 763mya, yn fwy na 30% yn gyflymach. Mae’r prosiect yn rhoi sawl her beirianegol anferth i’r tîm cynllunio, gan gynnwys y broblem o sicrhau y bydd y car yn sefydlog ar y cyflymder hwnnw. Er mwyn helpu’r tîm dylunio, mae dynameg hylifau gyfrifiadurol yn cael ei defnyddio ym Mhrifysgol Abertawe i geisio rhagweld sut y bydd y cerbyd yn ymddwyn o ran aerodynameg. Bydd y ddarlith yn disgrifio natur y dulliau a ddefnyddir a sut maen nhw wedi cyfrannu at y dyluniad aerodynamig.

Mae Frontiers yn gyfres o ddarlithoedd lle y gwahoddir academyddion o fri i siarad am yr hyn sy’n digwydd ar flaen eu maes ymchwil ac i roi eu cyfraniadau eu hunain mewn cyd-destun. Mae ymchwil yr Athro Morgan wedi cyfrannu at ddatblygu disgyblaeth peirianneg gyfrifiadurol ac wedi newid y ffordd y mae’r diwydiant aerofod yn defnyddio efelychu yn ei waith dadansoddi a dylunio peirianegol.