Diflanedig Fyd

Yn y llun gwelir Dr Bleddyn Huws yng nghwmni aelodau o deuluoedd Carneddog a Gwallter Llyfni ar achlysur lansio’r gyfrol.

Yn y llun gwelir Dr Bleddyn Huws yng nghwmni aelodau o deuluoedd Carneddog a Gwallter Llyfni ar achlysur lansio’r gyfrol.

01 Rhagfyr 2010

Newydd ymddangos o’r wasg y mae’r diweddaraf o gyhoeddiadau’r Adran Gymraeg, sef cyfrol a olygwyd gan Dr Bleddyn Huws, Diflanedig Fyd: Gohebiaeth Carneddog a Gwallter Llyfni, 1926-1932. Mewn cyfarfod hwyliog a gynhaliwyd yn yr Hen Goleg i ddathlu cyhoeddi’r llyfr, cyflwynwyd copi o’r gyfrol i Dr Huws gan y Prifardd Dafydd Pritchard ar ran y cyhoeddwyr, Cyhoeddiadau Barddas.

Rhan o ffrwyth un o brosiectau ymchwil yr Adran Gymraeg yw’r gyfrol, sy’n cynnwys 95 o lythyrau gan ddau fardd a llenor gwlad o Eryri. Penodwyd un o gyn-fyfyrwyr ymchwil yr Adran, sef Dr Gwen Angharad Gruffydd, sydd bellach ar staff y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd yn Aberystwyth, i weithio am flwyddyn ar y prosiect, a bu hi’n gyfrifol am drawsysgrifio gohebiaethau Carneddog â Bob Owen Croesor, J. W. Jones Blaenau Ffestiniog ac O. M . Edwards. Y mae’r ohebiaeth rhwng Carneddog a Gwallter Llyfni yn rhoi darlun gwerthfawr o hanes cymdeithasol gwerinwyr diwylliedig a’u diddordebau llenyddol.

Croesawodd yr Athro Patrick Sims-Williams, Pennaeth yr Adran Gymraeg, aelodau o deulu Carneddog a Gwallter i’r cyfarfod, yn eu plith Mr Glyn Jones, sydd yn or-nai i Gwallter Llyfni, a Mrs Heulwen Jones a Mrs Jean Powell Jones sy’n perthyn i hen deulu’r Carneddi yn Nanmor. Cafwyd darlleniadau o ddyfyniadau o’r llythyrau gan Dr Huws a’i gyd-weithiwr Dr Huw Edwards.

Wrth drafod cynnwys y gyfrol, dywedodd Dr Bleddyn Huws: ‘Gohebiaeth yw hon gan ddau fardd a llenor gwlad yr oedd lles y diwylliant Cymraeg yn agos at eu calon. Mae yn y llythyrau ddarlun difyr o fywyd un rhan o Gymru yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd. Ceir golwg gwerthfawr ynddynt ar grefydd, gwleidyddiaeth, diwylliant eisteddfodol a diwylliant llenyddol gwerinol y cyfnod, yn ogystal â golwg ar gyfeillgarwch dau gymeriad gwreiddiol y mae’n werth treulio amser yn eu cwmni.’