Cyngerdd Philomusica

Poster

Poster

02 Rhagfyr 2010

Bydd Philomusica, cerddorfa symffoni Aberystwyth, yn perfformio yng Nghanolfan y Celfyddydau nos Sadwrn 4 Rhagfyr, dan arweinyddiaeth David Russell Hulme.

Mae ganddynt raglen wych ar eich cyfer, a fydd yn cyrraedd ei huchafbwynt gyda’r symffoni ‘Pathetique’, campwaith Rhamantaidd Tchaikovsky. Mae’r gerddoriaeth, a berfformiwyd diwrnodau’n unig cyn marwolaeth y cyfansoddwr (trwy ei law ei hun yn ôl yr honiad), yn cynnwys ystod eang o emosiynau, a gyfleir drwy drefniant cerddorfaol meistrolgar Tchaikovsky, a’i alawon hyfryd.

Meistr arall ar y gerddorfa oedd Elgar, ac mae ei agorawd afieithus Cockaigne yn agor y rhaglen. Mae’r darn hwn, sy’n amlygu medrusrwydd y gerddorfa, yn bortread byw a grymus o Lundain y cyfnod Edwardaidd sy’n dangos ochr ‘bob-dydd’ y ddinas yn ogystal â’i ffasâd crand. Nid yw’n fawr o syndod mai dyma un o’r darnau a berfformir amlaf o blith gweithiau’r cyfansoddwr.

Bydd y trwmpedwr rhyngwladol disglair, Paul Archibald, un o hoff unawdwyr y gerddorfa, yn dychwelyd i chwarae’r Concerto i’r Trwmped gan Grace Williams. Gwnaeth y gerddoriaeth gryn argraff pan y’i perfformiwyd gan Paul a’r gerddorfa am y tro cyntaf rai blynyddoedd yn ôl. Dyma un o weithiau mwyaf llwyddiannus y gyfansoddwraig Gymreig, Grace Williams, a gellir dadlau ei fod yn un o’r concerti gorau a gyfansoddwyd erioed ar gyfer yr offeryn. Bythgofiadwy.

Mae cerddoriaeth y meistr operatig o Eidalwr, Giacomo Puccini, yn unigryw. Daeth o hyd i’w lais nodweddiadol am y tro cyntaf yn Manon Lescaut , a’r ‘Intermezzo’ swynol – Puccini ar ei orau – a chwaraeir cyn Act III, sy’n cloi rhaglen y gerddorfa.

Mae’r cyngerdd yn cychwyn am 8.00 yr hwyr, ac mae tocynnau ar gael am gyn lleied â £3.50, gyda gostyngiadau a phrisiau arbennig i blant. Archebwch nawr o Swyddfa Docynnau Canolfan y Celfyddydau (01970 623232), i sicrhau eich bod yn cael sedd dda ar gyfer un o ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw ardderchog Aberystwyth.