Dathliadau'r Mads

Poster cyflwyniad y Mads

Poster cyflwyniad y Mads

02 Rhagfyr 2010

Bydd Cantorion Madrigalau Elisabethaidd y Brifysgol yn dathlu 60 mlwyddiant gyda pherfformiad cyhoeddus yn Neuadd Gregynog, ger y Dre Newydd, ar Ddydd Sadwrn y 4ydd o Ragfyr.

Bydd y côr, sydd yn cael ei adnabod wrth yr enw ‘Mads’, yn canu gweithiau a oedd yn rhan o’i repertoire pan gafodd ei ffurfio yn 1950, a thri darn a gomisiynwyd i nodi’r 60 mlwyddiant, De Sua Clepsydra gan John Hearne, Winter and Spring gan Kevin John a The Eternity of Song gan Mike Brewer.

Bydd y darn cyntaf un i’w gyfansoddi ar gyfer y côr, Lisa Lan gan Jayne Davies, yn cael ei berfformio a bydd Jayne, arweinydd y côr yn 1956-57, yn y gynulleidfa Ddydd Sadwrn.

Arweinydd y perfformiad fydd Haydn James a fu’n dathlu 41 mlynedd ddi-dor fel arweinydd yng nghymuned Cymry Llundain yn ddiweddar. Ef hefyd yw Cyfarwyddwr Cerddorol Undeb Rygbi Cymru.

Ers 1950 mae mwy na 500 o fyfyrwyr wedi canu gyda’r Cantorion Madrigal Elisabethaidd, neu’r ‘Mads’ fel y mae’r côr yn cael ei adnabod. Yn ystod y cyfnod hwn mae’r Mads wedi cyfoethogi bywyd diwylliannol Aberystwyth a Chymru yn gyffredinol. Yn wir, mae’r Mads wedi gwneud eu marc yn rhyngwladol ac wedi teithio ar draws y byd i wledydd megis Rwsia, Gwlad yr Iâ, yr Unol Daleithiau, Ynysoedd y Seychelles a’r rhan fwyaf o Ewrop. 

Mae’r Mads wedi perfformio ar deledu a radio, cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangollen a gwyliau eraill, ac wedi gweithio gyda chyfansoddwyr megis Michael Tippett. Yn fwy diweddar bu’r côr yn canu yn Stadiwm y Mileniwm, cyn y gem rygbi ryngwladol rhwng Cymru â De Affrica.

Mae’r côr wedi cynhyrchu nifer o raddedigion eithriadol sydd wedi mynd ymlaen i fod yn arweinwyr ym mywyd cerddorol Cymru a’r Deyrnas Gyfunol. Mae'r rhain yn cynnwys William Matthias, Is Lywydd yr Eisteddfod Ryngwladol Jane Davies, a Chyfarwyddwr Côr Ieuenctid Cenedlaethol Prydain, Mike Brewer.

Nodwyd y 60 mlwyddiant hefyd gyda chyhoeddi hanes y côr. Gwaith Dale Webb, Cadeirydd cymdeithas cyn fyfyrwyr y côr yw Elizabethan Madrigal Singers Cantorion Madrigalau Elisabethaidd 1950/2010 A History / Hanes. Mae’r llyfr yn benllanw prosiect dwy flynedd i ddatblygu archif ddigidol o hanes y côr, a’r hyn ym mae wedi ei gyflawni. Mae’r archif ar gael ar y wefan http://mads.org.uk/.

AU23010