Cerddoriaeth Nadoligaidd

Poster cyngerdd y Band Chwith

Poster cyngerdd y Band Chwith

13 Rhagfyr 2010

Eglwys Llanbadarn fydd y lleoliad ar gyfer noson hyfryd o gerddoriaeth ar y 14eg o Ragfyr.

Bydd Band Chwith y Brifysgol, o dan arweinyddiaeth Geoff Kingston, yn cyflwyno rhaglen fywiog a lliwgar o gerddoriaeth er mwyn mynd รข phawb i ysbryd y Nadolig. Detholiad o ffefrynnau bandiau chwith a cherddoriaeth dymhorol, gan gynnwys darnau yn cael eu canu gan Undeb Gorawl y Brifysgol. Bydd cyfle hefyd i'r gynulleidfa ymuno i ganu rhai o'r carolau adnabyddus.

Mae hon yn argoeli i fod yn noson arbennig mewn lleoliad arbennig. Perfformiad yn dechrau am 8, mynediad drwy raglen, a fydd ar gael wrth y drws neu ymlaen llaw o Ganolfan Gerdd y Brifysgol yn 10 Maes Lowri - 01970 622685. Pris £6 (£5 gostyngiad) a £2 i fyfyrwyr llawn amser, disgyblion ysgol a phlant.