E-Droseddu

Y ganolfan ddelweddu

Y ganolfan ddelweddu

14 Rhagfyr 2010

Cyngor ar E-Droseddu i fusnesau gorllewin Cymru

Cynhelir gweithdy gan Gynghrair Meddalwedd Cymru, raglen £13 miliwn sydd yn cael ei harwain gan Brifysgol Abertawe ac yn cael ei darparu mewn partneriaeth gydag Aberystwyth, Morgannwg, Bangor a Phrifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yng Nghanolfan Ddelweddu Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 15fed Rhagfyr am y 6 yr hwyr.

Mae’r digwyddiad, “E-droseddu - Pa mor ddiogel yw’ch busnes chi?”, yn rhan o raglen o weithdai sydd yn cael eu cynnal ar gyfer busnesau gan raglen Gynghrair Meddalwedd Cymru er mwyn hybu twf a chystadleugarwch y sector technoleg ddigidol ar draws y wlad.

Bydd y gweithdy yn trafod nifer o faterion sydd yn ymwneud ag E-droseddu gan gynnwys pa mor saff rhag ymosodiad electronig? Pa gamau diogelwch rydych yn eu defnyddio er mwyn diogeli eich gwybodaeth fusnes allweddol? Ydy’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth ddiweddaraf gyda chi o’r peryglon? Ych chi’n sicr? 

Y siaradwr gwadd fydd Karen Burch, Swyddog Busnes E-droseddu Cymru sydd yn gweithio gyda Heddlu Dyfed Powys. Bydd hi’n darparu gorolwg o’r prif beryglon i fusnesau bach o dorcyfraith electronaidd ac yn cyflwyno dadansoddiad o’r camau y dylai’r gymuned busnesau bach a chanolig fod yn cymryd i ddiogelu eu buddiannau.

Bydd y sesiwn yn trafod cyfrifoldebau cyfreithiol busnes bach yng nghyd-estyn E-droseddu, yn trafod gwahanol ffyrdd o ymdrin â rheoli’r perygl mewn busnesau bach a chanolig ac yn cynnwys astudiaeth achos o sefydliadau yng Nghymru sydd wedi dioddef E-droseddu yn ddiweddar a’r gwersi a ddysgwyd. Bydd cyfle i holi cwestiynau ar ddiwedd y sesiwn, ynghyd â chyfle i rwydweithio a chyfnewid ymarfer da.

I gael gwybod rhagor am y gweithdy “E-droseddu - Pa mor ddiogel yw eich busnes?” ar ddydd Mercher 15fed Rhagfyr am 6 yr hwyr yng Nghanolfan Ddelweddu Prifysgol Aberystwyth ewch i www.softwarealliancewales.com/events neu cysylltwch â’r tîm drwy events@softwarealliancewales.com.