Llundain 2012

Golgyfa o The Persians. Llun: Toby Farrow

Golgyfa o The Persians. Llun: Toby Farrow

16 Rhagfyr 2010

Cyfraniad pwysig gan dîm creadigol o Brifysgol Aberystwyth i Olympiad Diwylliannol Llundain 2012

Yn dilyn llwyddiant cynhyrchiad arobryn National Theatre Wales o The Persians ar safle hyfforddi milwrol Epynt yng nghanolbarth Cymru yr haf diwethaf, mae’r tîm a greodd y gwaith, yr Athro Mike Pearson, Simon Banham a Mike Brookes o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi derbyn gwahoddiad i greu cynhyrchiad newydd i’r cwmni fel rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd 2012 y Royal Shakespeare Company, a fydd yn dathlu’r modd y mae’r byd yn perfformio, yn dysgu ac yn profi gwaith Shakespeare.

Bydd yr Ŵyl yn rhan o Ŵyl Llundain 2012 a fydd wrth galon dathliadau diwylliannol Gemau Olympaidd Llundain, a bydd yn arddangos y gorau o blith talentau creadigol y DU a thalentau rhyngwladol mewn cynyrchiadau o safon fyd-eang ar draws y DU.

Bydd Colriolan/us yn gweld y tîm o Aberystwyth a greodd The Persians yn dod at ei gilydd unwaith eto mewn fersiwn newydd o hanes y Cadfridog Rhufeinig Caius Martius - Coriolanus.

Mae’r cynllwynio gwleidyddol a geir yn nrama Shakespeare Coriolanus a hefyd yn addasiad Bertolt Brecht ohoni yn yr ugeinfed ganrif, Coriolan, yn cynnig llu o gyfleoedd theatrig cyfoes, ac amcan y cynhyrchiad yw defnyddio darllediadau allanol o faes y gad, cwynion y bobl yn cael eu hadrodd i gamera a’r gynulleidfa yn cymryd rhan y genedl wleidyddol.

Cynhyrchiad Mike Pearson o The Persians oedd prif gynhyrchiad National Theatre Wales yn eu tymor cyntaf o waith newydd, a chydnabuwyd cyfraniad Mike Brookes a Simon Banham gyda gwobr Dylunio Gorau y Theatre Managers Association ym mis Tachwedd.

Mae’r gwahoddiad hwn i gymryd rhan yng Ngŵyl Shakespeare y Byd yn 2012 yn dystiolaeth bellach fod y bartneriaeth rhwng National Theatre Wales a’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn profi’n hynod o gynhyrchiol, gan greu digwyddiadau perfformio cwbl arloesol ym myd y theatr ym Mhrydain.

Croesawodd yr Athro Adrian Kear o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu y gwahoddiad: ‘Rwyf i wrth fy modd â’r gwahoddiad pwysig hwn i National Theatre Wales gymryd rhan yng Ngŵyl Shakespeare y Byd yn yr Olympiad Diwylliannol. Mae’n fraint i’r Adran gael gwneuthurwyr theatr o safon fyd-eang yn gweithio ynddi, ac mae ein cysylltiad clos â National Theatre Wales yn dangos budd ac effaith proffil ymchwil yr Adran, sydd wedi’i seilio ar ymarfer.”

“Ni allai cyfraniad yr Adran hon i fywyd diwylliannol y genedl fod yn gliriach a byddwn yn parhau i adeiladu ar yr enw da hwn am ymchwil theatr arloesol, trylwyredd beirniadol a rhagoriaeth greadigol,” ychwanegodd.

AU23410